MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Foreu Mawrth, Tachwedd 2iain, bu farw yn dra sydyn Mrs A. Hughes, gweddw y diweddar Capt. John Hughes, 18, Lleyn Street, yn 67 mlwydd oed.Yr oedd Mrs Hughes wedi byw yn yr un tŷ am 47 o flynyddoedd, a bydd chwith gan lawer yn y cylch fod hebddi. Gwelid yn amlwg yn ei bywyd rinweddau y gwir foneddiges, a bu ei charedigrwydd yn fawr i'w chymdogion.
Claddwyd dydd Gwener Denio. Angladd anghyhoedd. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., y Ficer. Yr oedd yn bresenol yn yr angladd Mri T. W. Thomas, Woollen Depot; A C. Steele, 18, Lleyn Street; Hugh Jones, Nyffryn; Hugh Jones, Carnarvon Road; Ellis Jones, Prior, Abererch; Robert Griffith, Bryn Meurig, Penrhos; Thomas Griffith, Pantglas, Efailnewydd; G. Cornelius Roberts, Maes; E. Jones Griffith, Bodriw; R. Barker Jones, Lleyn Street; D. Caradog Evans, Arthog; John G. Jones, Salem Terrace; O. H. Roberts, Lleyn Street; James Williams, Lleyn Street; a Thomas Evans, Lleyn Street.
Mae ein cydymdeimlad yn ddwfn a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw, Teimla'r teulu yn ddiolchgar am yr holl gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt.