MARW ATHRAWES.

Fore Mercher bu farw Miss Anne Ellen Hughes, merch ieuengaf Capten a Mrs Hughes, 18, Lleyn Street, a hi yn 35 mlwydd oed.

Yr oedd yn athrawes yn Ysgol Troed yr allt ers blynyddau ac yn gymeradwy iawn gan ei chyd-athrawon a'r plant.

Ddydd Sadwrn daeth torf fawr ynghyd i'w hebrwng i orffwys yn mynwent Denio.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch J. Rhydderch, ac yn y fynwent gan y Parch J. Edwards, ficer.

Cydymdeimlir a'i mam yn ei phrofedigaeth chwerw, ac a'i chwaer, Mrs T. W Thomas, Woollen Depot.

Yr Udgorn 14/07/1915

ANGLADD PARCHUS.

Y dydd Sadwm o'r blaen yn mynwent Denio, daeth torf barchus yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i Miss Ellen Hughes, 18, Lleyn Street, yr hon fu yn athrawes am 20 mlynedd yn Troed yr allt. Nid oedd ond 35 mlwydd oed.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Rhydderch, a J. Edwards, B.A., Ficer.

Yr oedd nifer fawr o athrawon a phlant y cylch yn bresenol yn nghyd a'r aelodau canlynol o'r teulu:- Mri. T. Williams Thomas, A.C. Steele; Robert Roberts, Pantglas; Mr. a, Mrs. Tom Griffiths, Pantglas; Mr. a Mrs. Robert Griffiths, Bryn Meurig; Ellis -lones, Prior; Mrs. Abbott, Pantglas; Mrs Jones, Pentre, Penrhos; Miss Ann Thomas, Pensarn; Miss Maggie Jones, Gwynfryn, Criccieth; Mrs. Olwen Williams, Ala Road; Mrs. Jones, Penybont, Llanystumdwy.

Gofalwyd am y trefniadiau gan Mr. Edward Williams, Shop Glasfryn.

Anfonwyd blodau gan y rhai canlynol; Mrs. Williams, ei mam; Mr. a Mrs. T. W. Thomas, athrawon a Phlant ysgolion Troedyrallt a Phenllieiniau; Mena Pritchard, Mount Pleasant; Mrs. Steele a'r teulu, Iona ac Eurwyn Lewis, Highlands; Wallis a Rhian Thomas, Gwalia Restaurant; Mr. Steel, Miss Euronwy Evans, Mr. a Mrs. Lowe a Sally, Warrington, Albert Fosse., Mr. Evan Evans, Lleyn Street; Miss L. Griffith, Hirwaen; Ann Margaret,. LIys Pedr; ar milwyr canlynol o'r R.F.A., sydd yn Mhwllheli; Sergt. McCarthy, Corpl. Mortimer, Bombardier Mortimer, Bombardier Nanney, a Gunner May.

Yr Herald Gymraeg 20/07/1915