YN DDIHANGOL ER GWAETHAF Y GELYN.
Parha y gelyn, gyda'i fadau tanforol, i wneud ymgais beunydd at fywydau rai o forwyr dewr ein tref.Yr wythnos ddiweddaf, ac efe ond prin newydd gychwyn ar ei fordaith, cafodd Mr John Morgan Jones, mab Mr a Mrs Robert Barker Jones, Lleyn Street, brofiad lled chwerw o driniaeth anymunol y gelyn wrth geisio rhoi dyfrllyd fedd i ddwylaw yr agerlong "Cleftonian," i'r hon y perthynai, trwy ei thorpedio.
Achubwyd yr oll o'r dwylaw, er gwaethaf eu hymgais anynol.
Yr Udgorn 14/02/1917
MORWROL.
Yr wythnos ddiweddaf, yn Lerpwl, darfu i Mr John Morgan Jones, mab Mr a Mrs R. Barker Jones, Lleyn Street, basio yn llwyddianus dystysgrif Bwrdd Masnach fel Second Mate.Llongyfarchwn ef yn galonog ar ei Iwydd anrhydeddus, gan fod safon yr arholiad yn awr yn uwch a chaletach nag arfer.
Dymunwn iddo felly le uwch a gwell eto yn myd morwriaeth.