MARWOLAETH DDISYFYD.

Boreu heddyw, yn sydyn iawn bu farw Mr Michael King, Lleyn Street. Tarawyd ef yn wael yn siop Mr John Evans, Lleyn Street, a bu farw ymhen ychydig funudau.

Gwyddel o genedl oedd Mr King, a phabydd selog. Yr oedd yn trigo ym Mhwllheli ers llawer o flynyddau, ac yn hen ŵr adnabyddus iawn.
 

Yr Udgorn 08/10/1913