ENILL Y FEDAL FILWROL.

Yr wythnos hon eto mae genym yr hyfrydwch o longyfarch Private Robert Roberts, mab hynaf Mr. a Mrs. John Roberts, Lleyn Street, ar ei waith yn enill y Fedal Filwrol am wrhydri o'i eiddo yn Ffrainc.

Enillodd hi yn y frwydr olaf a ymladdwyd, ac arwisgwyd ef a'r anrhydedd yno. Cymrawd difost a chlĂȘn ryfeddol yw Bob, ac yr ydym o galon yn ei longyfarch ar ei lwydd gwronol.

Yr Udgorn 04/12/1918