WEDI EI GLWYFO.
Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd y newydd trist fod Private Evan Owen Roberts, mab Mr a Mrs John Roberts, Lleyn Street, wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Ymddengys ei fod ar hyn o bryd yn yr ysbytty yno.Dymunwn iddo yn mhoen a chyni corff, er ymhell o dir ei wlad, bob cysur ac adnewyddiad buan i'w gynefin iechyd.
Yr Udgorn 05/09/1917
YN GWELLA O'I GLWYFAU.
Ddiwedd yr wythnos derbyniasom lythyr dyddorol oddiwrth y milwr clwyfedig Private Evan Owen Roberts, mab Mr a Mrs John Roberts, Lleyn Street. Llawen oedd genym ddeall trwyddo ei fod yn gwella o'i glwyfau blin, a rhagolygon gobeithiol y bydd yn holliach cyn hir.Dywed ei fod wedi d'od i gyfarfyddiad a rhai o fechgyn anwyl tref yr UDGORN yn Ffrainc, sef Privates Griffith John Thomas, Ty Melyn, Penrhydlyniog; Richard Owen, Black Lion, a W. Emrys Jones (Rhosfawr), yr hwn fu yn gwasanaethu fel clerc am flynyddoedd yn swyddfa y diweddar Barch. D. E. Davies. Y mae ef ar hyn o bryd wedi ei ddyrchafu yn Gaplan ar yr 11th S. W.B.
Does dirm mwy rhamantus mewn hanes na chyfarfyddiad bechgyn o'r un natur, i gyfnewid meddyliau a'u gilydd ac i ail fyw Eden mebyd, ar ddaear gwlad estronol.
Y nef fo'n dirion wrthynt.