Y MILWR A'I FEIBL DARLUNIADOL.
Yr wythnos ddiweddaf, yn y Gwyliedydd Newydd, papur wythnosol y Wesleaid, gwelsom lythyr galluog ynddo gan un a eilw ei hun yn Sergt. R. Fraser Williams, yn rhoi hanes y Fataliwn Gymreig ar ei hymdaith lwyddianus trwy anhawsderau fyrdd yn Ngwlad yr Addewid, ac yn nghwrs ei ddesgrifiadau gwefreiddiol o leoedd rhamantus a phersonau neillduol, rhydd ganmoliaeth arbenig i'r milwr ieuanc difost Private Griffith John Roberts, mab Mr a Mrs John Roberts, Lleyn Street.Wele ddyfyniad o hono "Darllen Beibl Darluniadol y mae, gyfrifa y trysor mwyaf sydd ganddo yn ei Valise. Mae wedi ei lapio yn dyn mewn bag gwyn, a dau ddarn cardboard yn gyfnerthiad i'w ddau ddarn croen goch, a charai ledr esgid yn gwlwm am dano. Arno mae yn ysgrifenedig 'Griffith J. Roberts, oddiwrth Eglwys Penlan, Pwllheli, myfyria ynddo ddydd a nos. Gyda'r dymuniadau goreu dros yr Eglwys, J. Rhydderch, Gweinidog, 1916.' Bu y Beibl ar ei gefn ym mrwydr Gaza ar fryn Ala Muntaar ynghanol y bwledi a'r ergydion, ond daeth yr hen Lyfr a'r darllenydd yn ddiangol o'r ffwrn."
Anhawdd talu gwarogaeth uwch a phrydferthach i fuchedd beunyddiol milwr na'r uchod, a chaiff teuluoedd unig sy'n gorfod cerdded yn bendrist ar hyd dyffrynoedd pryder y dyddiau hyn fodd i ymdawelu fod eu hanwyliaid yn ddiogel yn nghysgod y Gair.