YN GARCHAROR.

Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr a Mrs John Roberts, Lleyn Street, hysbysrwydd fod eu mab, Private John Walter Roberts, yn garcharor rhyfel yn Germani.

Yr oedd pryder y teulu hwn yn fawr yn ei gylch gan y tybid ei fod ar goll er's wythnosau, ond bydd i'r newydd a gaed am dano leddfu ychydig ar eu poen.

Yr Udgorn 01/05/1918


DYCHWELIAD CARCHAROR.

Yr oedd yn dda genym weled Private John Walter Roberts, mab Mr. a Mrs. John Roberts, Lleyn Street, yn edrych mor dda ar ei ryddhad o afael y gelyn.

Cymerwyd ef yn garcharor ym mis Mawrth diweddaf, a gwyr beth ydyw dioddef caledi gelyn dialgar. Peth amser yn ôl yr oeddym yn llongyfarch ei frawd am wroldeb neillduol ar faes y rhyfel.

Yr Udgorn 18/12/1918