MILWR O BWLLHELI.

Mab yw'r Private William Griffiths i Mr a Mrs William Griffiths, Lleyn Street, Pwllheli. Yr oedd yn gwasanaethu fel clerc yn swyddfa'r Mri F E Andrews a ï Feibion, Pwllheli, cyn y rhyfel.

Mae yn gampwr ymhob math o chwareuon, ac yn dra phoblogaidd gyda'i gyd-ieuenctyd.

Ymunodd a'r North Wales Pals ar doriad allan y rhyfel ac y mae yn awr yn ymladd yn Ffrainc.

Yr Herald Gymraeg 15/02/1916