MARWOLAETH.

Nos Sadwrn diweddaf, wedi cystudd maith a phoenus, bu farw Mr Robert Richard Jones, sett- maker, Lleyn Street, mab ieuengaf Mr Hugh Jones, Cardigan Bay Fish Shop.

Yr oedd yr ymadawedig yn 42 mlwydd oed, a gedy mewn galar o'i ôl weddw a thri o blant, â'r rhai y cyd ymdeimlir yn ddwys.

Cleddir ddydd Iau, am haner awr wedi un, yn mynwent Denio.

Yr Udgorn 12/03/1913


CLADDEDIGAETH.

Yr wythnos ddiweddaf crybwyllasom am farwolaeth Mr. Robert Richard Jones, Settsman, Lleyn Street, yr hyn a gymerodd le foreu Sul, Mawrth 9fed.

Dydd Iau diweddaf cludwyd ei weddillion i orphwys i fynwent newydd Denio. Blaenorid yr angladd gan aelodau o Gymdeithas yr Odyddion, o ba un yr oedd yn aelod, a chludwyd y corph gan ei gydeithwyr yn Ngharreg yr Imbill.

Cafodd gladdedigaeth lluosog a pharchus. Gwasanaethwyd wrth y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch. J. Rhydderch.

Nawdd y nef fyddo dros ei weddw a'i dri plentyn bychan yn eu profedigaeth.
 

Yr Udgorn 19/03/1913