ALDERMAN W. ANTHONY, J.P.
The death of Alderman Wm. Anthony, J.P., The Lodge, Pwllheli, occurred on Tuesday. He was in his usual health up to Tuesday, when he retired to bed about 11 o'clock. In a few hours he had a heart seizure, and in a very short time passed away.The news of his sudden death was received with great regret throughout the town. Mr Anthony, who was 62 years of age, was one of the most prominent men in the public life in Pwllheli, and his loss will be keenly felt.
During the last twenty-five years he rendered the town much service, socially, morally, and religiously. He was a man of strong convictionis, earnest and upright in all his doings. He was a valuable member of the Town Council, and had several times occupied the mayoral chair, and acted as chairman of the principal committees—the Harbour and Finance Committee. He was thoroughly versed in the work of the Council, and was one of the most faithful members. The public possibly have not fully realised the excellent work he did as chairman of the Harbour. Committee during the times when the new harbour question was first started, and during the still more anxious times when the construction of the harbour began, and was successfully finished. There was no part of the harbour scheme which he did not thoroughly understand.
He was a good speaker and keen debater; at times he would hit hard, and would bear Stoically being hit back. Though he might be criticised at meetings of the Council, he bore no ill feeling towards his critics. He brought his business aptitude in his trade to bear upon his municipal work, which enhanced the value of his public services, to which he sacrificed much time and money. He brought into his public life the conscientiousness that guided him in his own business, in religion and in his private life.
By his death the English Congregational Church in Cardiff-road is deprived of a warm support. He filled the office of deacon, and was also treasurer of the Llyn and Eifionydd Congregational Quarterly Meeting. He was a Justice of the Peace for the county, being appointed in 1907. In politics he was a moderate liberal.
He leaves a wife, three sons and two daughters.
North Wales Chronicle 22/01/1915
MARW YR HENADUR W. ANTHONY, Y.H., PWLLHELI.
Mae'n debyg na bu i'r un gwr cyhoeddus yng Nghymru ymroddi mor llwyr i wasanaethu ei dref a'r Henadur William Anthony, U.H., Pwllheli, yr hwn fu farw gyda sydynrwydd anarferol foreu Mercher yn ei 60 mlwydd oed. Bu ganddo ran flaenllaw iawn mewn dyrchafu Pwiilheli o fod yn dref wledig ddinod i fod yn un o'r ymdrochleoedd pwysicaf yn y Gogledd.Bu iddo gael ymosodiad. o afiechyd y galon yn yr ysgoi Sul yn Cardiff Road, ond daeth ato ei hun, ac yr oedd yn ei fasnachdy ddydd Llun a dydd Mawrth. Aeth. i orphwys fel arfer nos Fawrth, ond tua dau or gloch y boreu cafodd ymosodiad drachefn, a galwyd ar Dr. Wynne Griffiths ato. Daeth ato ei hunan am beth amser, ond yn fuan cafodd ymosodiad drachefn, yr hwn er pob ymdrech o eiddo y meddyg, a brofodd yn angeuol tua thri o'r gloch y boreu. Synwyd y dref a'r wlad gan y newydd, gan fod Mr. Anthony yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus a pholblogaidd yn y dref a'r cylch, ac nid yn hawdd y gellir llanw y gwagle. Yr oedd yn wr penderfynol a chadarn yn ei ffordd, a chariodd lawer o welliantau trefol ym Mhwllheli drwodd yn wyneb gwrthwynebiadau mawrion. Cymerodd y blaen mewn sicrhau y porthladd i'r dref, yr hwn gynllun a gostiodd 68,000p. Hefyd sicrhaodd gynllun o garthffosydd rhagorol, ac yr oedd ganddo law flaenllaw mewn cael yr orsaf i ganol y dref yr hyn a gostiodd tua 40,000p. Y mae amryw o bethau eraill y bu ganddo ran amlwg yn eu sicrhau, megys y Neuadd Drefol, y gwaith dwfr, etc.
Yr oedd yn siaradwr hyawdl ac angyhoeddiadol iawn, ac yn wr o syniadau eang ac o ddiwylliant uchel. Bu yn aelod ffyddlon o Gyngor y Dref am gyfnod o 30ain mlynedd. Bu yn Henadur am 20 mlynedd ac etholwyd ef yn faer y dref am saith mlynedd. Fe oedd Cadeirydd y Pwyllgor Arianol, Pwyllgor y Porthladd, a Phwyllgor y Gwelliantau yn nglan y mor. Yr oedd yn cynrychioli y Cyngor ar Fwrdd Llywodraethol yr Ysgol Ganolraddol, yn Gadeirydd Pwyllgor Rheolwyr Ysgol Troedyrallt, ac yn aelod o Bwyllgor Rheolwyr Ysgol Penllieiniau. Bu yn cynrychioli y dref ar y Cyngor Sir am beth amser ac yr oedd yn drysorydd i Gymdeithas Hysbysebu y Cambrian. Yr oedd yn ddiacon gyda'r Annibynwyr ers chwarter canrif. Dewiswyd ef yn nghapel Penlan, a phan sefydlwyd yr achos Seisnig yn Cardiff Road symudodd yno, a bu yn asgwrn cefn i'r a achos yno am flynyddau. Yr oedd yn weithiwr ffyddlon gyda'r Ysgol Sul a phob achos da, a bu yn drysorydd i Gyfarfod Chwarterol Lleyn ac Eifionydd am flynyddau lawer. Dyrchafwyd ef i'r fainc ynadol tua wyth mlynedd yn ôl, a bu yn eistedd yno yn ffyddlon, a phob amser yn cymhwyso trugaredd a barn at yr achosion ddeuai ger ei fron.
O ran ei wleidyddiaeth yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn ac eiddgar, a dywedir mai efe gynigiodd Mr. Lloyd George i fod yn gynrychiolydd dros Fwrdeisdref Arfon. Bu yn gadeirydd y Gymdeithas Ryddfrydoli, a gweithiodd yn egniol ar ran Rhyddfrydiaeth ym mhob cylch. Yr oedd yn gredwr cryf mewn milwriaeth. Efe sefydlodd Gymdeithas y Tiriogaethwyr Cymreig yn y dref. Dadleuodd yn gadarn o blaid y rhyfel yn Neheubarth Affrica, a hyny yn groes i syniadau Mr. Lloyd George a rhai o aelodau blaenllaw y gymdeithas leol. Gawyd Mr. Anthony yn Lerpwl yn y flwyddyn 1855 a daeth i Bwllheli yn fachgen bychan yn brentis o ddilledydd i Shop Pwlldefaid. Ar ôl bod yn dilyn ei alwedigaeth yn Llundain am wyth neu naw mlynedd, daeth i Bwllheli a sefydlodd fusnes fel dilledydd yn Manchester House, lle y bu yn cario y busnes yn mlaen hyd ei farwolaeth.
Bu iddo briodi ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Miss Roberts, chwaer Mr. Richard Roberts, Hope House, a ganwyd iddynt bump o blant, sef Mr. Isaac Anthony, Lieut. J. R. Anthony (cyfreithiwr), Mrs. G. H. Thomas, Aberystwyth; Miss Hannah B. Anthony, B.A., Ysgol Ganolradd Pwllheli; a. Mr. W. R. Anthony, Gwrecsam. Ymbriododd yr ail dro â Mrs. Lemuel Jones, chwaer i Mr. O. Robyns Owen. Cydymdeimlir yn ddwfn a'i weddw a'r plant yn eu profedigaeth.
COLLI UN O'R COLOFNAU.
Yng nghyfarfod bjynyddol Clwb Rhyddfrydol y dref, nos Iau, dywedodd y cadeirydd (Mr. D. Caradog Evans) mai gorchwyl brudd iawn oedd y peth cyntaf oedd ganddynt i'w gyflawni, sef cyfeirio at farwolaeth yr Henadur W. Anthony, yr hwn fu yn un o golofnau yr achos Rhyddfrydol yn y dref am gyfnod o 30 mlynedd. Yr oedd yn wr o allu mawr ac o ddylanwad eang a rhoddodd ei holl allu ym mhlaid dyrchafu y dref ym mhob gwedd arni. Yr oedd wedi gweithio yn egniol dros Mr. Lloyd George y blynyddau cyntaf, a chlywodd ef Mr. George yn dweyd nas gallai byth brisio ei ddyled i Mr. Anthony. Cynygiodd anfon penderfyniad yn cydymdeimlo a'r teulu ac yn datgan eu gwerthfawrogiad o wasanaeth Mr. Anthony. Cefnogwyd gan yr Henadur Maurice Jones, U.H., yr hwn a sylwodd fod Mr. Anthony yn cychwyn ar ei yrfa gyhoeddus pan ddaeth ef i'r dref 30 mlynedd yn ôl. Y pryd hwnw yr oedd amgylchiadau y dref yn nwylaw ychydig iawn o bersonau, ond aeth Mr. Anthony a democratiaeth i fewn i'r Cyngor Trefol, ac o hyny yn mlaen gwnaed y Gyngor i fyny o ddynion yn cynrychioli y werin. Bu yn hyrwyddwr blaenllaw i bob achos er dyrchafu y dref. Bu yn aelod o'r Cyngor Sir am dair blynedd, ond yr oedd a'i fryd yn fwy ar ddyrchafu ei dref nag ar bethau o'r tu allan, a dilynwyd ef ar y Cyngor Sir ganddo ef (Mr. Jones) yn y flwyddyn 1901. Cyfeiriodd at y gwaith mawr a wnaeth fel aelod o Fwrdd Llywodraethol yr Ysgol Ganolraddol, ac aelod o reolwyr ysgolion elfenol Troedyrallt a Penlleiniau. Fel ynad yr oedd yn ddyn teg a chyfiawn ac yn ddewr i isefyll dros ei farn bersonol yn mhob achos.Pasiwyd y penderfyniad canlynol trwy i'r holl aelodau godi ar,eu traed :- Ein .bod fel aelodau o Glwb Rhyddfrydol Pwllheli yn datgan ein gofid dwfn yn yr amgylchiad galarus sydd wedi disgyn arnom fel tref, a chymydogaeth trwy farwolaeth ddisymwth yr Henadur William Anthony. Bu yn wr blaenllaw gyda phob mudiad er gwella sefyllfa ei gyd-drefwyr am dros ddeg mlynedd a'r hugain. Yr oedd yn Rhyddfrydwr goleuedig, ffyddlon, talentog ac yn Ymneillduwr difefl. Hefyd ein bod yn cyflwyno i Mrs. Anthony ar teulu ein cydymdeimlad llwyraf â hwynt yn eu profedigaeth lem o golli gwr cariadllawn, a thad caredig, ag oeddynt oll yn ei edmygu a'i garu. Teimlir ei golled am lawer o flynyddoedd fel Rhyddfrydwr pybyr a chynghorydd goleuedig a ffyddlawn."
YR ANGLADD.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn. Gan fod yr ymadawedig wedi siarad llawer yn erbyn angladdau cyhoeddus nid oedd ond gwahoddedigion yn unig yn bresenol. Claddwyd ef yn mynwent newydd Denio, y Parchn John Rhydderch, Penlan, a John, Hughes, B.D. Salem, yn gwasanaethu. Yr oedd arwyddion o alar a pharch ar bob llaw yn y dref gan fod y lleni wedi eu tynu i lawr dros y ffenestri a chlywid amryw yn gofidio na buasai yr angladd yn gyhoeddus er i'r cyhoedd gael dangos eu parch i'r ymadawedig.Blaenorid yr angladd gan y Cyngor Trefol, sef Dr. R. Jones Evans (Maer), Mr. Evan R. Davies (Glerc), yr Henaduriaid Dr. Wynne Griffiths (yr hwn hefyd oedd meddyg yr ymadawedig), R. Ifor Parry a W. Eifl Jones, y Cynghorwyr Richard Jones, G. Cornelius RcAierts, John Summers, R. Albert Jones, E. Jones Griffiths, Hugh Pritchard, W. Wynne Owen, T. W. Thomas, W. M. Toleman, O. Ellis Jones, Lewis Jones, W. Cradoc Davies (Dirprwy Glerc), Charles J. Roberts (Arolygydd), a John Ellis (Cyfrifydd), a W. Talmage Davies (Trysorydd). Y prif alarwyr oeddynt: Cerbyd cyntaf Mr. Isaac M Anthony, Lieutenant J. R. Anthony, Mr. Gwilym Anthony (meibion), a. Mr. W. H. Thomas, Aberystwyth (mab-yn-nghyfraith). Ail gerbyd Mri. David Lloyd Jones, watchmaker; W. Picton Jones, Arosfa; Henry Lloyd, Tai Cochion, a W. Lloyd Owen, Llundain (cefndryd). Trydydd cerbyd Mri. Richard Roberts (cyfreithiwr), O. Robyns Owen (cyfreithiwr), R. E. Roberts, Manceinion; a'r Parch 'Hugh Davies, Abererch (brodyr- yn-nghyfraith). Cludwyd yr arch gan Mri. Jones, E. J. Hughes, O. J. Robertson (diaconiaid yn Cardiff Road), a Mri. John Ellis a W. Cradoc Davies. Anfonwyd blodau gan y rhai canlynol Mrs. Anthony a'r plant, y Cyngor Trefol, gwasanaethyddion y Cyngor, Eglwys Cardiff Road, ysgol Sul Cardiff Road, ysgolion Troedyrallt, Nell a. Gwil, teulu Erw Wen, Mrs. Roberts, Hope House; Mr. a Mrs. F. E. Andrews, Caerdydd; CyrnoI Jones, a swyddogion adran 6ed y R.W.F., Mrs. R. O. Jones, Mr. a Mrs. Wynne Owen, Arosfa; Henry Jones, South Dart; Misses E. F. Hord, Mr. R. W. Pritchard. Gofalwyd am y trefniadau gan Mr. G. M. Roberts, Marsley House.
Derbyniodd y teulu nifer luosog, iawn o bellebron a llythyrau yn cydymdeimlo a hwy yn eu profedigaeth. Yn eu mysg yr oedd brysneges oddiwrth Mr. Lloyd George yn gofidio yn fawr oherwydd marwolaeth ei gyfaill hoff ac yn cydymdeimlo yn ddwfn â'r teulu yn eu galar.
Herald Gymraeg 26/01/1915
MR. W. ANTHONY.
Mr. Anthony oedd un o sefydlwyr cyntaf YR UDGORN ac y mae yn addas i ni dalu ein teyrnged o barch diffuant i'w goffadwriaeth.Bu ei yrfa yn llawn bywyd mewn llawer cylch, ond cyssegrodd ei flynyddau olaf yn benaf at wasanaeth yr Eglwys Seisnig yn Cardiff Road ac i fywyd cyhoeddus y dref. Efallai y tybia rhai y byddai yn rhy dueddol i fynd ei ffordd ei hun, ond cryfder ei gymeriad a dyfnder ei argyhoeddiad a barai hyny. Nid oedd ac ni fu erioed yn hunanol - ei sel a'i ymroddiad dros ei achos a'i cynhyrfai i ymlid pob anhawster o'r ffordd ac i fynu goruchafiaeth.
Gwasanaethodd achos crefydd gyda chysondeb diball. Yn Penlan ac yn y Cyfarfod Chwarter yr oedd ei ymroddiad parod yn amlwg i bawb, ac y mae llwyddiant eglwys Cardiff Road yn gofgolofn fyw i'w lafur a'i egni.
Gwnaeth wasanaeth mawr dros addysg yn y dref. Bu yn aelod o'r hen Fwrdd Ysgol am gyfnod maith, ac yn gadeirydd am flynyddau. Fel aelod o'r Bwrdd Llywodraethol yr oedd yr Ysgol Ganolraddol yn agos iawn at ei galon, a gweithredai fel Rheolwr ar Ysgolion Elfenol Penlleiniau a Throedyrallt. Gweithiodd lawer i gael rheolaeth gyhoeddus dros elusenau y plwyf, ac yr oedd y mwyaf blaenllaw o'r Ymddiriedolwyr drostynt ers hen amser.
Pan sefydlwyd y Clwb Rhyddfrydol gyntaf yn Church Place yr oedd yn un o'i hyrwyddwyr penaf, ac am flynyddau lawer bu yn gyfrifol am holl waith y blaid Ryddfrydol yn y cylch ynglyn a'r Llys Cofrestriadol. Yn etholiad cyntaf Mr. Lloyd George gweithiodd yn ddiflino drosto, a chyn hyny, yn etholiad 1885, cof genym iddo godi brwdfrydedd uchel ymysg Rhyddfrydwyr y dref drwy groesholi y diweddar Mr. Swetenham yn llym ar gwestiynau Ymreolaeth, Masnach Rydd a Phwngc y Tir. Cofia pawb iddo gymeryd safle wrthbleidiol i Ryddfrydwyr y dref ar gwestiwn rhyfel De Affrig, ond yr oedd teimiadau y cyfnod hwnw wedi eu hanghofio bellach ers dyddiau, ac yr oedd ei ymlyniad wrth a'i ymroddiad i achos Rhyddfrydiaeth mor gynes ag erioed. Ni fu neb erioed mwy byw i fuddianau y dref.
Bu yn aelod o'r Cyngor am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac fel cynghorydd, henadur, a maer gweithiodd yn galed i ddatblygu a dyrchafu y dref yn mhob ystyr. Efe oedd y cychwynydd a'r gweithredydd bywiocaf ynglyn a phob symudiad trefol ers chwarter canrif, ac wrth daflu golwg dros y gorphenol y mae llu o welliantau i'w croniclo sydd wedi newid llawer ar ymddangosiad a safle y dref, yn cynwys y Fynwent newydd (lle y gorphwys ei weddillion, y Neuadd Drefol a'r Farchnadfa; y Gwaith Dŵr; Lledu'r Cob; Cynllun y Porthladd symud y stesion; gwelliantau ar yr heolydd; agor llwybrau cyhoeddus, ay.
Nis gellir meddwl am unrhyw gynllun cyhoeddus nad oedd ei feddwl parod a'i ewyllys gref yn cael eu gweithredu bob amser i'w gario drwodd yn llwyddianus, ac y mae yn ffaith gysurlawn i'r dref ac i'w gydweithwyr, fel yr oedd i'w anrhydedd ef ei hun, na fu stormydd gwrthwynebiad (sydd bron yn anocheladwy) erioed yn foddion i chwerwi ei ysbryd nac i oeri ei sel o blaid y dref a'i buddianau. Bydd yn anhawdd caei ei hafal mewn ffyddlondeb,—gellir dibynu arno bob amser. Treuliodd ran helaeth o'i oes i wasanaethu eraill, ac er y gallasai bywyd llai ymroddgar i achosion cyhoeddus olygu mwy o lwyddiant ar ei amgylchiadau bydol, nis gellir ameu bellach na fydd dylanwad ei gymeriad a'i waith yn aros am ddyddiau lawer.
Huned mewn hedd a chaffed ei deulu tirion gysur a diddanwch yn y wybodaeth y bydd coffadwriaeth ei enw yn anwyl yn mhob cylch y câdd Pwllheli y fraint o'i wasanaeth.
Yr Udgorn 27/01/1915
MARW YR HENADUR W. ANTHONY, Y.H.
Bu farw yr Henadur W. Anthony, Y. H., The Lodge, Pwllheli, yn sydyn iawn fore Mercher diweddaf, er braw a gofid dwys i'r dref a'r cylch.Tarawyd ef yn wael yn yr Ysgol yn nghapel, Cardiff Road brydnawn Sul, ond gwellhaodd yn ddigon da i fod gyda'i fusnes yn y siop ddydd Llun a ddydd Mawrth. Eithr cafoad ymosodiad drachefn oddeutu tri o'r gloch fore dydd Mercher, a chyrchwyd y Meddyg O. Wynne Griffith ato ar unwaith, ond bu farw ymhen ychydig funudau.
Fel y crybwyllwyd parodd yr amgylchiad trist ac anisgwyliadwy fraw a gofid cyffredinol, gan fod yr ymadawedig bob amser mor iach yr olwg arno ac mor heini ei yspryd. Yr oedd yn drigain mlwydd oed. Ddydd Sadwtn hebryngwyd ei gorff i orffwys yn mynwent Denio angladd anghyhoedd.
Gwasanaethwyd yn y tŷ, yn y capel ac ar lan y bedd, gan y Parch J. Rhydderch, gweinidog egIwys Penlan, a'r Parch John Hughes, B.A. I B. D., gweinidog Salem. Blaenorid yr orymdaith gan y gweinidogion a enwyd a dilynid hwy gan aelodau a swyddogion y Cyngor Trefol a swyddogion eglwys Cardiff Road. Yn dilyn yr oedd y cerbydau yn cynwys y prif alarwyr—Mr Isaac, M. Anthony, Lieut, J. R. Anthony, Mr. W. R. Anthony,(meibion) Mr P. Thomas, N. P. Bank, Aberystwyth (mab ynghyfraith) Mri: D. Lloyd Jones, W. Lloyd Owen, Llundain, Henry Lloyd, Tai cochion (cefndyr) Mri Wm. Jones, Atosfa Richd. Roberts, cyfreithiwr, R. E. Roberts, Manchester; O. Robyns Owen, cyfreithiwr, a'r Parch Hugh Davies, Abererch. Gofelid am drefniadau yr angladd gan Mr G. M. Roberts, Marsley House.
Wele yn dilyn grynhodeb o yrfa lafurus ac ymroddgar yr ymadawedig. Yn Lerpwl y ganed Mr. Anthony, ar yr 20fed o Chwefror, 1855, a daeth i Bwllheli pan yn ieuanc iawn, ac aeth yn brentis i Siop Pwlldefaid. Wedi dod o'i brentisiaeth aeth i wasanaethu mewn siop ddillad yn Llundain. Wedi bod yno tua naw mlynedd daeth yn ôl i Bwllheli drachefn, gan gychwyn busnes ei hun yn Manchester House. Gwnaed ef yn aelod o'r Cyngor Trefol ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ôl, a bu'n henadur am ddwy flynedd ar bymtheg. Gymaint oedd ei ddyddordeb yn muddianau'r dref, a'i yni a' i allu yn y cyfeiriad hwn, fel y gwnaed ef yn Faer seithwaith, y tro olaf yn y flwyddyn 1908. Gwneid ef hefyd yn gadeirydd y gwahanol bwyllgorau o flwyddyn i flwyddyn. Bu yn cynrycbioli'r Cyngor ar y Bwrdd Ysgol gynt, ac efe oedd cadeirydd Rheolwyr Ysgol Troedyrallt, ac yn un o reolwyr yr Ysgol Ganolraddol. Bu hefyd un adeg yn aelod o'r Cyngor Sir. Annibynwr ydoedd o ran ei ddaliadau crefyddol, a bu'n ddiacon yn Eglwys Penlan, ac wedi hyny yn Eglwys Seisnig Cardiff Road, am bum mlynedd ar hugain.
Efe oedd un o gychwynwyr yr Eglwys Seisnig, a chaiff golled anrhaethol yn ei farwolaeth. Yn wir bydd colled fawr i'r enwad ar ei ôl drwy'r Sir, yn y Cwrdd Chwarter, i'r hwn yr oedd yn drysorydd, ac ynglyn a holl symudiadau'r enwad. Yr oedd yn meddu ar farn hollol annibynol, ac yr oedd yn eang ei egwyddorion. Traethai ei olygiadau yn ddiamwys a di-dderbyn-wyneb. Gweithiodd yn egniol dros Ryddfrydiaeth, ac yr oedd yn un o bríf gedyrn y blaid yn y dref. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i weled gobaith gwleidyddwr mawr yn Mr. Lloyd George, ac efe gynygiodd ei fabwysiadu fel cynrychiolydd Rhyddfrydol dros y Fwrdeisdref. Yr oedd yn areithydd hyawdl ac argyhoeddiadol, a bu o wasanaeth amrhisiadwy i'r blaid ar ei llwyfanau am flynyddau. Daeth ei annibyniaeth barn i'r amlwg yn adeg rhyfel De Affrig, pan yr anghytunai â Mr. Lloyd George a'i gyfeillion o barthed i'r rhyfel hwnw. Eithr er yn teimlo o golli ei gynorthwy yr adeg bono gwerthfawrogai Mr. Lloyd George ei unplygrwydd, a gwyddai fod y gwahaniaeth rhyngddynt i'w briodoli i argyhoeddiadau gonest y naill fel y llall.
Wedi hyny bu Mr. Anthony, er llawenydd i'r blaid, mor egniol a gweithgar dros egwyddorion Rhyddfrydiaeth ag erioed. Ond i'r dref y rhoes efe ei lafur mwyaf, a'i buddianau hi fanteistodd fwyaf oddiwrth ei fywyd cyhoeddus. Datblygodd Pwllheli yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o fod yn dref fechan farchnadol i fod yn ymwelfan atdyniadol i ddieithriaid, ac y mae hyny i'w briodioli i raddau helaeth iawn i'w yni a'i weithgarwch ef ar y Cyngor Trefol. Ymysg y datblygiadau hyrwyddwyd ganddo gellir nodi neuadd y dref a'r farchnadfa, y lladd-dy cyhoeddus, y dramffordd, adrefniant y gwaith dwr, y fynwent gyhoeddus, a lluaws o welliantau eraill. Eithr y prif symudiad ag y cymerodd efe ran arbenig o flaenllaw gydag ef oedd cynllun y porthladd, yr hwn gostiodd dros drigain mil o bunau.
Os na ellir dweyd i'r cynllun ddod yn hollol i fynu a'r hyn y disgwyl, onibae y mudiad buasai yr orsaf eto oddeutu milltir tuallan i'r dref, yn lle yn ei chanol fel yn awr, ac nis gellir amgyffred y fantais i'r dref fel cyrchfan dieithriaid yw safle bresenol yr orsaf. A phan gynhyddo'r dref fel ymwelfan perchir enw Mr. Anthony am y rhan flaenllaw gymerodd efe i wneud y peth yn bosibl. Yr oedd yn ynad tros y sir hefyd er y flwyddyn 1907, ac yr oedd yn ynad rhagorol-yn dyner ei galon, ac ar yr un pryd yn hollol deg a chyfiawn. Nid oedd ond y rhai gafodd y fraint o fod yn gydnabyddus ag ef yn gwybod pa mor garedig a hael ei galon ydoedd.
Bu'n briod ddwywaith. Miss Roberts chwaer Mr. Richard. Roberts, Hope House, oedd ei wraig gyntaf, ac wedi hyny priododd a Mrs. Lemuel Jones, chwaer i Mrs. O. Robyns Owen. Bu iddo bump o blant o'r briodas gyntaf, set Mr. Isaac M. Anthony, yr hwn sy'n cario'r busnes ymlaen yn Manchester; Mr. J R. Anthony, swyddog gyda'r Tiriogaethwyr; Mrs. G. H. Thomas, Aberystwyth; Miss Hannah B. Anthony, B.A., o'r Ysgol Ganolraddol a Mr W. R. Anthony, clerc yn ariandy'r National Provincial yn Ngwrecsam.
Anfonwyd wreaths gan y rhai canlynol, Mrs. Anthony a'r plant, y Cyngor Trefol, gwasanaethyddion y Cyngor, Eglwys Cardiff Road, Ysgol Sul Cardiff Road, Ysgolion Troedyrallt, Nell a Gwil, Teulu Erw Wen, Mrs Roberts, Hope House; Mr. a Mrs W. Wynne Owen, Arosfa; Mr. a Mrs. F. E Andrews, Caerdydd; Cyrnol Jones, a swyddogion adran 6ed y R. W. F.; Mrs R. O Jones, Mr. Henry Jones, Southport; Misses N. ac F. Hood, a Mr. R. W. Pritchard.
Derbyniodd y teulu nifer luosog iawn o bellebron a llythyrau yn cydymdeimlo a hwy yn eu profedigaeth. Yn eu mysg yr oedd brysneges oddiwrth Mr. Lloyd George yn gofidio yn fawr oherwydd marwolaeth ei gyfaill hoff ac yn cydymdeimlo'n ddwfn a'r teulu yn eu galar. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad â'r teulu gan amryw eglwysi y dref nos Sul diweddaf.
Yr Udgorn 27/01/1915
FUNERAL OF ALDERMAN ANTHONY.
The funeral of Alderman Anthony which was private took place on Saturday at Denio, the Revs. J. Rhydderch and J. HUghes B.D. officiating.Flags flew at half mast in the town and window blinds were drawn all along the funeral route in token of respect to the memory of one who had served Pwllheli so well.
The funeral was preceded by the members and officials of the Town Council including Councillor Dr. Jones Evans, mayor; Aldermen Dr. Wynne Griffith, R. Ivor Parry and W. Eifl Jones; Councillors Richard Jones, G. Cornelius Roberts, John Summers, R. Albert Jones, E. Jones Griffith, Hugh Prichard, W. Wynne Owen, T.W. Thomas, W. M. Toleman, O. Ellis Jones, Lewis Jones; Messrs. Evan R Davies. town clerk; Cradoc Davies deputy clerk; Charles Lloyd Roberts surveyor and inspector; John Ellis, accountant and W. Talmage Davies, treasurer.
The chief mourners were Mr Isaac M. Anthony, Lieut. J. R. Anthony, and Mr W.R Anthony, (sons); Mr. G. Thomas Aberystwyth (son-in-law); Messrs. David Lloyd Jones, watchmaker; W Picton Jones Arosfa; Henry Lloyd Tai Cochion and W. Lloyd Owen, London (cousins); Messrs. Richard Roberts Hope House; O. Robyns Owen (solicitor), R. E. Roberts (Manchester) and the Rev. Hugh Davies (Abererch), brothers-in-law.
The pall-bearers were Messrs. Rees Jones, E J. Hughes, O. J Robinson (deacons at Cardiff road Congregational Church.) and Messrs. John Ellis and Cradoc Davies. Wreaths were sent by the widow and children and by the Town Council, the Borough employees, Cardiff-road Church, Cardiff road Sunday School; Troedyrallt Council School; Mr. and Mrs. G. H Thomas; the Erw Wen family; Mrs. Roberts, Hope House; Mr. and Mrs. P. E. Andrews, Cardiff; Colonel Jones and the officers of the 6th R.W.F. (Territorials) to which Battalion Lieut. Anthony is attached; Mrs. R. O. Jones; Mr. and Mrs. Wynne Owen, Arosfa; Henry Jones, Southport; Misses E. and F. Hord; Mr. R. W. Pritchard.
The widow and children have received hundreds of letters expsessing sympathy among them being one from Mr. Lloyd George who wrote that he had lost "a very dear old friend."
Cambrian News 29/01/1915
MARWOLAETH YR HENADUR ANTHONY, PWLLHELI.
Meddianwyd trigolion Pwllheli gan ddychryn foreu. Mercher. pan y clywyd fod yr Henadur William Anthony, Y.H., wedi marw yn gynnar y bore hwnw.Yr oedd yn ddyn mor dda, mor ragorol mewn gwasanaeth a chymmeriad, fel y teimlwyd ar unwaith fod y dref wedi cael y golled fwyaf gafwyd erioed.
Sut bynag yr edrychid ar Mr. Anthony - fel Cristion, fel masnachwr, fel aelod o'r cynghor, ac o wahanol bwyllgorau a chymdeithasau cyhoeddus, fel blaenor, ac fel dyn canfyddid ei fod yn gymmeriad cyfan, disglaer, heb ffuantrwydd na hoced. Nis gellid peidio ei edmygu ac ymddiried ynddo. Dyna y rheswm dros i'r cynghor roddi y prif swyddi iddo bob amser, gan gynnwys y Faeroliaeth, o dro i dro. Cydnabyddai y cynghorwyr a'r henaduriaid oll ei fod yn arweinydd iddynt.
Meddianai feddwl cadarn, galluog, ac eglur, gallai siarad yn effeithiol a chyda'r eglurder mwyaf, ac nid oedd ei hafal ar y cynghor am drin materion arianol. Ymddangosai fel dyn wedi ymwerthu i wneyd ei oreu dros ei dref a gwnaeth waith nad oes neb a all ei brisio yn briodol, yn enwedig yn ystod y 25ain mlynedd diweddaf.
Efe yn benaf fu wrth lyw llong y Gorphoraeth yr amser hyny - yn ystod yr hwn y gwnaed y porthladd newydd. Er mai Annibynwr a Rhyddfrydwr oedd efe, nid Annibynwr na Rhyddfrydwr oedd efe yn y cyngor nac mewn unrhyw swydd gyhoeddus arall. Nid oedd dim pleidgarwch na secteriaeth yn meddwl Mr. Anthony.
Y golled fwyaf ar ei ôl fydd yn y teulu - priod, tri o feibion a dwy ferch - ond bydd colled hefyd. ar ei ôl yn yr eglwys yn Cardiff Road, yr hon a hoffai yn ddirfawr a theimlir colled ar ei ôl yn mhob rhan o fywyd cyhoeddus y dref.