MARW GWRAIG IEUANC.
Dydd Mawrth, wedi cystudd trwm, bu farw Mrs Laura Ann Jones, priod Mr Thomas John Jones, Lleyn Street, a hi yn 37 mlwydd oed. Yr oedd Mrs Jones yn wraig dawel a hoffgan ei chydnabod. Dioddefodd ei chysudd yn amyneddgar i'r diwedd.Ddydd Gwener cymerodd ei chladdedigaeth (anghyhoedd) le yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, Elms. Yr oedd yn bresenol yn yr angladd Mr Thomas J. Jones (priod); Master R. W. Jones (mab); Mr Evan Jones, North Street (tad) Mr Robert Isaac Jones, Gaol Street (tad ynghyfraith); Parch. Robert J. Jones, B.A., Talybont, Mri R. Jones a W. Stanley Jones (brodyr ynghyfraith); Robert Williams, Llanystumdwy (ewythr); W. Trevor Jones, New Street; Hugh Jones, Carriage Works, Ala Road; John C. Jones, Pretoria Warehouse; R. Albert Jones, Central Restaurant; Thomas Griffith a Master R. G. Griffith, Melbourne House; Mri J. Gabriel Jones, High Street; Samuel Evans, Victoria House; William Jones Hughes, Cliffe House.
Yr oedd y trefniadau o dan ofal Mr R. T. Williams, Bon Marche.
Cydymdeimlwn a'i phriod a'r ddau blentyn bach yn eu galar.