WEDI EI GLWYFO.

Drwg genym ddeall fod Private Samuel Hughes, mab Mr John Hughes, Penrhydlyniog, wedi ei glwyfo yn drwm yn ei ben ar faes y gwaed yn Ffrainc, ac wedi ei ddwyn drosodd i ysbytty yn Llundain.

Cydymdeimlwn a'i deulu trallodus, oherwydd y mae dau o'i frodyr yn barod wedi talu yr aberth drutaf.

Hyderwn y caiff wellhad buan o'i glwyfau.

Yr Udgorn 25/09/1918