MARWOLAETH.
Dydd Mercher bu farw Mrs. Dorothy Williams, Lleyn Street, a hi yn 59 mlwydd oed. Cafodd gystudd maith a blin, ond dioddefodd y cwbl yn amyneddgar.Yr oedd yr ymadawedig yn wraig gvmwynasgar a chymdogol nodedig, ac yn un o fawr werth mewn cylch o angen a chymorth teuluaidd.
Cymerodd y gladdedigaeth le ddydd Sadwrn yn mynwent Bryncroes. Gedy un ferch i alaru ei cholled ar ôl mam ofalus, a chydymdeimlwn a hi yn ei phrofedigaeth.