Ymadawiad y Parch. J. Puleston Jones.
Nos Iau cynhaliwyd cyfarfod i anrhegu y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ar ei ymadawiad o Bwllheli i Lanfair Caereinion. Llywyddwyd gan Mr. Samuel Williams, Tan y Garn, yr hwn a sylwodd eu bod wedi cael gwasanaeth y Parch. Puleston Jones yn Mhwllheli am yr 11 mlynedd cyfoethocaf ei fywyd - blynyddau ei addfedrwydd a'i fywiogrwydd meddyliol. Yr oedd tref Pwllheli yn feddyliol fel yn ddaearyddol yn wastad iawn, ac yr oedd yn dda cael pinacl fel y Parch. Puleston Jones yn eu plith. Yr oedd yn llawer mwy nag Eglwys Penmount. Nid oedd yno ddigon o ddwfr i'w nofio. Yr oedd yn ddyn oedd yn llanw tref, ac yr oedd ei ysbryd llydan a'i fedr a'i athrylith yn ei wneud yn ddyn defnyddiol iawn mewn tref. Teimlent hefyd eu rhwymedigaeth i Mrs Jones, ei briod, am ei llafur a'i ffyddlondeb yn cario adnoddau iddo i adeiladu y temlau godidog oedd yn ei gyfansoddi. Yr oedd wedi casglu defnyddiau iddo o bedwar cwr y byd.Cyflwynodd Dr. O. Wynne Griffith, Y. H. ar ran yr Eglwys, anrheg o Ysgriadur (Typewriter) iddo. Sylwai fod yr ewyllys da oedd y tu ôl i'r rhodd yn llawer mwy na'r rhodd ei hun. Yr oedd yr Eglwys wedi cyflawni ei dyledswydd yn lled anrhydeddus at Mr. Jones, ond yr oedd hyn yn rhywbeth dros ben, ac ar y pethau roddid dros ben yr oedd gwerth. Hyderai y byddai i Gymru fanteisio ar yr anrheg. Deallai fod Mr. Jones am ysgrifenu ei feddyliau i'w genedl trwyddo, a byddai y genedl i gyd ar ei mantais o gael ffrwyth ei feddwl byw a thoreithiog mewn argraff (cym).
Dywedai y Parch. Thos. Williams ei fod ef yn gydefrydydd â Mr. Jones yn y Bala ddeugain mlynedd yn ôl, ac ni feddyliodd yr adeg hono y buasai yn cael 11 mlynedd o'i gwmni yn un o'r eglwysi pwysicaf fedd y Cyfundeb. Yr oedd yn chwith iawn gan y gweinidogion ei golli, a chredai yr arosai ei ddylanwad yn hir iawn ar ôl iddo ymadael. Dymunai fendith y Goruchaf iddo ef a'r teulu.
Darllenodd y llywydd lythyr oddiwrth Mr. Evan Parry, un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn sydd yn wael, a'r Parch. David Roberts, Abererch, yn datgan eu gofid am eu hanallu i fod yn bresenol, ac yn dymuno pob llwydd iddo yn y dyfodol. Cynrychiolid Eglwys Salem gan Mr. J. Evans Hughes, yr hwn a sylwodd nad oedd am geisio rhoddi ei linyn mesur ar Mr. Jones am y gwyddai ei fod yn rhy fyr. Beth bynag oedd eu syniadau am y Parch. Puleston Jones tra yn eu plith credai y byddent yn meddwl llawer mwy o hono ar ôl iddo ymadael. Meddyliai ef yn ddifrifol sut y gallai yr Eglwys yn Mhenmount fyw ar "rations" meddyliol ar ôl bod yn mwynhau y fath wleddoedd cyfoethog am gynifer o flynyddau. Yr oedd wedi bod yn gysgod ac amddiffyniad mawr iddynt. Ond nis gallai fyned ymaith i gyd. Yr oedd yn sicr o adael ei ddylanwad ar ei ôl. Yr oedd yn feddianol ar ysbryd mor eang a llydan fel yr oedd pob capel yn y dref yn teimlo oddiwrth ei ddylanwad. Dichon nad oedd yn boddhau pawb, ac yr oedd rhai pobl yn disgwyl cael angel am gyflog pregethwr Methodus (chwerthin).
Dymunai ar ran Eglwys Salem Dduw yn rhwydd iddo ef a'r teulu. Cynrychiolid Cyngor yr Eglwysi Rhyddion gan y Parchn. Conway Pritchard a J Rhydderch. Dywedai Mr. Pritchard mai peth go amheuthyn i weinidog Wesley oedd cael bod mewn cyfarfod ymadawol gweinidog arall, am eu bod yn symud mor fynych eu hunain. Credai ef nad aiff effaith personoliaeth gref Mr. Jones byth o fywyd y dref. Yr oedd ei foneddigeiddrwydd a'i ddynoliaeth a'i natur dda yn gampwaith gras. Yr oedd lledneisrwydd ac eofndra wedi eu cyfuno yn ei gymeriad cadarn. Medrai fod ar delerau da a dyn heb fod yr un farn ag ef. Yr oedd rhai nodweddion ynddo oedd yn eiddo i'w Eglwys a'i gyfeillion agosaf. Ond yr oedd ei serchawgrwydd, ei foneddigeiddrwydd a'i natur dda yn eiddo i bawb. Rhyw fywyd mawr ydoedd. Nid oedd yn anwadal ac yn cael ei daflu gan gorwyntoedd croes, nac yn dychryn mewn rhyferthwy. Gellid trystio y byddai y Parch. Puleston Jones yn aros yr un beth bynag fyddai yr ymosodiadau. Mynyddau o ddynion fedr wneud hanes iddynt eu hunain.
Credai ei fod ef wedi byw am ddigon o hyd i wybod y gwahaniaeth rhwng mynydd a thwmpath. Ac yr oedd Mr. Jones yn sicr o fod yn fynydd. Byddai bwlch mawr iawn yn Nghyngpr yr Eglwysi Rhyddion ar ei ôl, ac yr oeddynt yn colli pregethwr mawr o'u plith.
Dywedai y Parch. J. Rhydderch fod yn chwith iawn ganddo ef golli cymdeithas y Parch. Puleston Jones. Yr oedd yn meddu ar bersonoliaeth atdyniadol iawn. Yr oedd yn feddianol ar feddwl trwythedig ac ar natur ffraeth. Yr oedd yn iechyd i ddyn ei glywed yn chwerthin ac yn fwy na'r cwbl, yr oedd ganddo gymeriad y boneddwr Cristionogol. Dyn cenedl ydoedd. Dymunai hir oes iddo i wasanaethu ei wlad a'i Arglwydd.
Dywedai Mr. O. Robyns Owen ar ran y Cyfarfod Misol y byddai yno golled fawr ar ei ôl. Credai nad elai Mr. Jones byth yn hen. Yr oedd gormod o adnoddau tyfiant ac o wyrddlesni bywyd ynddo. Dwy genadwri oedd gan y Cyfarfod Misol i'r cyfarfod ymadawol. Y naill yn dymuno hir oes a phob llwyddiant i Mr. Jones a'r teulu, a'r llall i Eglwys Penmount i'w hanog i chwilio am olynydd buan iddo.
Datganai y Parch. H. H. Williams fod Eglwys y Bedyddwyr yn gofidio colli Mr. Jones, ac y byddai yn golled fawr i ddosbarth y gweinidogion ar ei ôl. Credai yntau nad elai Mr. Jones ymaith i gyd. Yr oedd wedi byw yn angerddol tra yn ein plith. Ond yr oedd yn sicr o beth arall. Yr oedd Mr. Jones yn sicr o fyned a phethau goreu y dref i ffwrdd gydag ef. Ni wnai ddim a'u pethau sala. Gadawai y rhai hyny ar ôl i gyd.
Diolchodd Mr. Jones mewn sylwadau doeth am yr anrhegion, a dywedai fod pawb wedi bod yn garedig iawn wrtho. Byddai hyd yn nod plant bach pedair oed yn dangos y ffordd iddo. Yr oedd yn falch iawn o'r Ysgrifiadur, gan ei fod yn gobeithio cael mwy o hamdden i roddi ei feddyliau wrth eu gilydd mewn Eglwys fach. Ond yr oedd yn mawrhau llawer mwy am y teimladau oedd y tu ôl i'r cyfan.
Cyflwynodd y Parch, J. Rhydderch gyfrol hardd i Mr. Jones ar ran dosbarth y gweinidogion. Derbyniodd Mrs. Jones anrheg o lestri arian ar ran Ysgol Genhadol y Traeth, a chyflwynodd dosbarth Ysgol Sul Miss Myfanwy Puleston Jones Lyfr Tonau a Beibl hardd yn anrheg iddi.