WEDDING.

DIANGFA RHAG BODDI. Ddydd Lun aeth Ellen, 12eg oed, merch y Rhingyll Lloyd, i ymdrochi yng nglan mor y West End.

Neidiodd oddiar ystyllen i'r dwfr a disgynodd mewn lle dwfn iawn. Gan nas gallai hi nofio, suddodd yn y fan.

Gwelwyd hi gan Mr. Jones, ieu. Cardiff Road, yr hwn aeth hyd y gallai yn ei ddillad i'r dwfr i geisio cael gafael ynddi, ond methodd. Yn ffodus daeth Mr. Wright, ymwelydd, a'r hwn ddigwyddai fod yn ymdrochi yn ymyl yno.

Aeth dan ddwfr a gallodd gaef gafael yn y lodes, a thrwy help Mr. Jones dygodd hi i'r lan.

Trwy ddefnyddio y moddion arferol llwyddwyd i achub bywyd y lodes fach. Erbyn trannoeth yr oedd hi wedi dyfod at ei hun yn dda.

Y Genedl Gymreig 28/07/1914


DIHANGFA GYFYNG.

Cafodd merch un mlwydd ar ddeg oed i'r Rhingyll Lloyd ddihangfa gyfyng rhag boddi wrth ymdrochi yn y môr ddechreu'r wythnos ddiweddaf.

Rywfodd daeth yr adenydd oedd ganddi i'w chynorthwyo i ddysgu nofio yn rhydd gan gaethiwo ei haelodau i'r fath raddau fel nas gallai gael ei phen uwchlaw wyneb y dŵr. Aeth ymwelydd oedd yn ymdrochi ar y pryd yno ati, ac aeth Mr. John Jones, West End Bakery, yn ei ddillad yno ato i'w gynorthwyo a chawsant hi i'r lan.

Wedi peth ymdrech llwyddwyd i'w hadfer i ymwybyddiaeth.  

Yr Udgorn 29/07/1914