MARWOLAETH CADBEN JOHN EVANS, CRAIGMÔR.

Ddydd Sul diweddaf, ar ôl cystudd blin, bu farw y morwr hysbys Cadben John Evans, priod Mrs Joyce Evans, Craigmor, Lleyn Street, ac efe yn 62 mlwydd oed. Unig frawd yr ymadawedig yw Cadben William Evans, Ty'n-coed, Sarn. Bu y diweddar Cadben Evans yn mordwyo y weilgi am flynyddoedd lawer, a bu'n llwyddianus nodedig yn ei fordeithiau peryglus. Llwyddodd yn hynod yn ei ymdrechion morwrol, ac ymneillduodd o'r mor flwyddi lawer yn ôl. Cyfrifid ef yn llywydd medrus, ac yn ŵr, o gryn ddylanwad yn mysg y dwylaw.

Yr oedd o ran ei ddaliadau gwleidyddol yn Geidwadwr egwyddorol, ac o ran ei grefydd yn Weslead selog a phur. Yr oedd yn ŵr o nodweddion gwir gymdeithasgar, a'i ymddiddanion beunydd yn dderbyniol gan gylch eang ei gydnabyddiaeth.

Dioddefodd yn dawel, er i'w gystudd fod yn un tost, heb beri gofid na phoen i'w deulu weinyddodd mor ddiymatal arno hyd yr awr y ffarwelodd a'r fuchedd hon. Cymer ei gladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus i ddynion yn unig, ddydd Iau nesaf yn hen fynwent Denio.

Cydymdeimlwn yn ddwys a'i briod a'i blant, ac a'r lluosog berthynasau yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 11/07/1917


CLADDEDIGAETH CAPT. JOHN EVANS.

Dydd Iau diweddaf cymerodd claddedigaeth Capt. John Evans, Craigmyr, le yn hen fynwent Denio. Angladd i ddynion yn unig ydoedd, a daeth torf luosog i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. R. Conway Pritchard, J. Puleston Jones, M.A.; W. Jones Hughes, Bethesda, a W. Phillip Roberts, Aberdyfi, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., y Ficer.

Anfonwyd wreaths gan y rhai canlynol : ei Anwyl Briod Nella; Capt. a Mrs Evans, Ty'ncoed, Sarn; Mrs Williams, Bank Place; Misses Williams, Bethesda; Mr a Mrs W. H. Williams, Buxton; Mr a Mrs Bowen, High Street; Miss Jones. Llys Pedr; Nurse a Miss Jones, Glyn Coed, Chwilog; Mr B. Howells, Talcymerau; Mr R. T. Foulkes, Postfeistr; Pwllheli Workingmen's Conservative Club; "Adgof uwch Angof" oddiwrth Ymddiriedolwyr Seion, Pwllheli.

Heddwch i'w lwch.

Yr Udgorn 18/07/1917