CAPT. E. SHELTON JONES.
Yn y London Gazette am ddydd Llun, Mehefin 3ydd, ceir paragraff am Dr. E. Shelton Jones, yr hyn o'i gyfieithu sydd fel y canlyn :"Y mae Capt. E. Shelton Jones yn ymryddhau o'i gomisiwn oherwydd sefyllfa anfoddhaol ei iechyd, yr hyn achoswyd gan amledd gwaith pan ar wasanaeth milwrol tramor, a chaniateir i'w enw fod yn mysg y rheng anrhydeddus o Gapten yn yr R.A.M.C. Mehefin 2il, 1918."
Gwnaeth y meddyg enwog waith rhagorol yn y fyddin a'r ysbytai, a chwith fydd gan lawer clwyfedig golli ei wên a'i garedigrwydd mawr. Bu yn drugarog wrth ddegau yn eu hadfyd.