PRIODAS.
Dydd Sadwrn, yng Nghapel Penlan, priodwyd Mr Rowland Eames Jones, mab Mr a Mrs Richard Jones, argraffydd, High Street, Pwllheli, a Miss Annie Thomas, Erylfryn, Pwllheli.Gweithredwyd fel tystion gan Mr Christopher Wilson Jones a Miss Dora E. Thomas, brawd a chwaer y priodfab a'r briodferch.
Gweinyddwyd gan y Parch J. Rhyderch yn mhresenoldeb Mr Owen Rowlands, cofrestrydd.
Cafwyd gwledd briodasol yn ngwesty'r "Gwalia."