ABERDARON PRIODAS.

Yn nghapel Deunant, Mai 12fed, unwyd mewn glan briodas Mr William Pierce Roberts, Frondeg, Chwilog a Miss Maggie Janet Evans, Dwyros. Y gwas oedd Mr E. G. Roberts, brawd y priodfab, a'r forwyn oedd Miss J W. Evans, chwaer y briodferch. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. T. Pritchard, Uwchymynydd, yn mhresenoldeb Mr Owen Rowlands, cofrestrydd, Llanbedrog, ewythr y briodferch.

Wedi'r gwasanaeth aed i gartref y briodferch, lle yr oedd gwledd wedi ei pharotoi gan fam a chwiorydd y briodferch, ac wedi mwynhau y wledd aeth y pâr ieuanc mewn modur i Chwilog, ac oddiyno i Colwyn Bay am ychydig ddyddiau.

Y mae y priodfab a thri brawd iddo yn gwasanaethu eu gwlad yn yr argyfwng pwysig hwn, un o honynt yn Salonica, a't tri arall gyda'r llongau, Nawdd y nef a fyddo drostynt a miliynau o fechgyn anwyl y deyrnas yn eu peryglon ar dir a môr.

Dyma fel y canodd y Parch. J. T. Pritchard ar yr amgylchiad llawen.

Holi a fu am haul efo—dydd
Diddorus ymuno
Mwyn ddydd dyma fo,
Iechyd i'ch dau o hono.
 
Hawdd gofyn heddyw wenau—lor
Am foreu digymylau
Haf heb ddim gofwy i'r ddau,
Ffyrdd Duw ni fforddia wae.
 
Priodi, tra para rhod, - a bar
Bur obaith yn gawod
Trysorau rif y tywod,
Dyma'u bryd heb frad i fod.

Yr Udgorn 16/05/1917