Gwroldeb Milwr o Bwllheli.

Y mae Private W. J. Jones, o Bwllheli, yr hwn sy'n perthyn i'r 6th Batt. R.W.F., yn hysbysu mewn llythyr anfonodd at ei rieni fod Private Moses Parry, mab Thomas Parry, Tanrallt Terrace, Pwllheli, wedi dangos gwroldeb mawr yn ystod y brwydro yn y Dardanelles.

Gwelai fod un o'r swyddogion mewn perygl mawr, rhuthrodd allan o'r ffos i wyneb tan dinystriol y gelyn, a dygodd y swyddog i ddiogelwch.

Dywed y llythyr ymhellach y sonir fod Parry i gael ei anrhydeddu a medal y D.C.M. am ei ddewrder.

Yr Udgorn 15/09/1915