PRIF ATHRO YN YMDDISWYDDO.
Deallwn fod Mr W. H. Benskin, Prif Athro yr Ysgol Genedlaethol Penlleiniau, yn ymddiswyddo yn mis Mai nesaf.Bu yn gwasanaethu y swydd o Brif Athro yma am yn agos i 38 mlynedd. Mae Mr Benskin yn ŵr cymeradwy a phoblogaidd iawn yn ein tref, a'i ddefnyddioldeb mewn llawer cylch o werth anmhrisiadwy. Efe yw organydd Eglwys St. Pedr er's blynyddau lawer, a chymer ddyddordeb arbenig mewn cerddoriaeth yno. Deil hefyd swyddi o bwys yn yr Eglwys ac yn dra gwasanaethgar yn yr Ysgol Sul. Rhydd ei ddoniau amrywiol bob amser at wasanaeth, angen, a buddiant cyffredinol y dref.
Deallwn y bydd i Mr a Mrs Benskin barhau i drigo yn y dref ar ôl hyn.
Yr Udgorn 23/01/1918
ANRHEGU MR. A MRS BENSKIN.
Anrhegodd Rheolwyr Ysgol Penlleiniau Mr. a Mrs. Benskin a 51p. cyflwynedig gan drigolion y dref ar ymneillduad yr athraw a'r athrawes.Eglurodd y Parch. J. Edwards, yr hwn a lywyddai, fod Mr. Benskin wedi bod yn brif athraw'r ysgol am 38 mlynedd, a Mrs. Benskin am 25 mlynedd. Rhoddai ganmoliaeth uchel iddynt.
Siaradodd Mr. G. Cornelius Roberts (cyn-Faer), a Mr. William. Thomas i'r un cyfeiriad, ac wrth ddiolch rhoddodd Mr. Benskin drem ar y safleoedd pwysig a ddelid gan lu o'r hen efrydwyr heddyw.