MARWOLAETH.
Yn blygeiniol foreu Gwener, ar ôl hirfaith gystudd, bu farw Miss Hannah Williams, Brynhelyg, a hi yn ymyl ei phedwar ugain mlwydd oed.Yr oedd yn dra adnabyddus yn y dref a'r amgylchoedd, a gwnaeth lawer o gymwynasau tirion yn ystod ei hoes.
Heddyw (ddydd Mawrth) rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn nghladdfa y teulu yn Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwirds, B.A., y ficer, a T. Woodings, B.A., y ciwrad.
Cydymdeimlir yn fawr a'i pherthynasau yn nghanol eu dwfn alar ar ôl un fu mor anwyl yn eu golwg.
Yr Udgorn 10/03/1915
MISS HANNAH WILLIAMS, BRYNHELYG.
Gyda galar dwys y cofnodwn farwolaeth y chwaer addfwyn, Miss Hannah Williams, Brynhelyg, Pwllheli, yr hyn a gymerodd le y 5ed cyfisol, yn yr oedran teg o 79 mlwydd.Yr ydoedd o gymeriad prydferth, yn hoff gan bawb, ac yn fonheddig o rodiad yn Eglwyswraig o'r fath ffyddlonaf, ac yn aelod o Gôr Eglwys St. Petr am yn agos i 50 mlynedd.
Yn ei blynyddoedd cynar meddai ar lais nodedig o dda, ac yn ei dadganiad o 'Glychau Aberdyfi' o flaen Owain Alaw ym Mhwlllieli (y cynta 'rioed) rhoddodd y fath foddhad iddo fel y rhoddodd gynyg iddi fyned yn ei blaen dan ei gyfarwyddyd fel cantores. Am ei charedigrwydd enillodd barch gan bawb yn gyffredinol.
Cafodd gladdedigaeth yn unol a'i dymuniad, sef, cael ei chludo i lan y bedd gan gôr yr Eglwys yn eu gwenwisgoedd.
Yn ei chynhebrwng, yr hwn gymerodd le ar y 9fed cyfisol, yr ydoedd y rhai canlynol :-
Mri. R. E. Williams, R. Williams a Samuel Williams, ei neiod; Mri. J. Jones (ewythr), W. Jones, Chas. Ll. Roberts, surveyor; H. T. Hughes, R. Mason Jones, W. H. Benskin, W. H. Thomas, Capt. Hughes, D. Wynn Williams, H. Jones, T. Frederick Williams, E. J. Griffith, Dr. S. W. Griffith, a'r Parch. R. Cynfelin Jones. Gweinyddwyd yn yr Eglwys ac wrth y bedd gan y Parchn. Canon Davies, Canon R. T. Jones (Glan-ogwen), J. Edwards, ficer, a T. Woodings, curad.
Gwedi gorchwyl noswylio,— gado byd
Gyda'i boen a huno.
Wnaeth ennyd; o gryd y gro—yn y man
Duw Ei Hunan a'i cyfod ohono.
Ei holl oes yn ngwaith y Llan-yn drylwyr
Hi dreuliodd yn gyfan;
Yn y côr gerllaw'r organ
Fel dûr gof hi lediai'r gân.
I d'lodion rif ac amddifaid-yn rhwydd
Hi roddai o'i thamaid;
A rhinwedd mawr ei benaid
Oedd byw, i hyny'n ddi-baid.
"Chwaer lân" medd pawb am dani,—ei goreu
Trugaredd fu'n gweini;
Gwneyd lles oedd ei hanes hi-yn mhob man,
Hen chwaer o anian haedda'i choroni.
R.E.W