CANU YN Y NOS
Gwasanaeth Cymraeg mewn eglwys Ffrengig.
Derbyniodd Mr. Charles Lloyd Roberts, Arolygydd Trefol, Pwllheli, lythyr diddorol iawn oddiwrth ei frawd, Corporal Howard Roberts, yr hwn sydd gyda'r Fyddin Gymreig yn Ffrainc.Wele ddyfyniadau ohono : -
"Yr ydym yn awr yn cael peth hamdden am ei bod yn gwlawio. Yr ydym yn un o'r rhanbarthau a gymerwyd yn ddiweddar oddiar y gelyn. Mae yna amryw o drigolion yr ardal ac nis gellwch feddwl am dorf o bobl a golwg druenusach arnynt. Maent wedi gwynebu pob math o galedi a chreulonderau oddiar law y gelyn.
Mae'r gelyn wedi lladrata pob peth o werth o'r tiriogaethau yma, ac ni adawsent na mochyn, na buwch, na cheffyl nac hyd yn oed gyw iar ar ôl yn unman. Bu iddynt feddiannu'r holl lysiau a dyfasant yma ac hefyd ymddwyn yn y modd mwyaf gorthrymus tuag at y bobl. Mae'r oll o'r Ffrancod hyn mewn angen meddyginiaeth a bu raid inni weini i reidiau miloedd ohonynt. Duw a wyr, mae ar y trueiniaid angen pob cymorth a ellir ei estyn iddynt, oblegid nid oes lawer o gnawd am eu hesgyrn na llawer o waed yn eu gwythienau.
Er pan ydym yma yr ydym wedi cael amser chynhyrfus iawn, ac yr ydym yn gobeithio fod y diwedd yn agos. Aethum drwy bentrefi a dyffrynoedd yn llawn o esgyrn, yn falch o gael dod allan o'r golygfeydd ofnadwy hynny. Yr oedd y dyffrynoedd yn llawn o gyrph dynion a cheffylau yr Ellmyn, yn ogystal a gweddillion gynnau, gwageni, etc. Yr ydym yn awr mewn lle mwy cysturus. Mae digon, o ôl rhyfel ar bob llaw, ond nid yw i'w gymharu a'r golygfeydd yn Nyffryn y Somme. Mae'r golygfeydd yn rhy arswydus i geisio eu desgrifio. Mewn un pentref nid oedd yno yr un enaid byw i'n croesawy. Yr unig beth byw a welsom ydoedd cath felen ar ben clawdd brics a'i phen mewn tin salmon.
Mae'r gelyn yn ymddangos yn hynod o awyddus i ddinystrio eglwysi. Mewn un lle gwelais dair o ffrwydbelenau mawr mewn lobi eglwys hardd. Rhoddwyd hwy yno er mwyn dinistrio'r eglwys a lladd y rhai a ddigwyddai fod i fewn, ond gwelwyd hwy mewn pryd. Yna aeth y Fyddin Gymreig i gynnal Cymanfa yn yr eglwys. Yr oedd yn dywyll fel y fagddu a'r unig oleuni a gaem ydoedd fflachiad ambell i fagnel yn awr ac yn y man. Yr oedd yn brofiad eithriadol iawn, yn enwedig i glywed un o'n bechgyn yn chwareu yr organ yn y caddug tywyll."
Aiff Corporal Roberts rhagddo i ddesgrifio fel yr oedd yr Ellmyn wedi galw heolydd wrth yr enwau "Kaiser Wilhelm St." "Hindenburg," "Little Willie," etc. Diwedda trwy ddweyd fod y fyddin yn gwylio'n bryderus y drafodaeth sydd yn myned yn mlaen yn nglyn a'r cais am gadoediad.