Llys Apel y Sir.

Cynhaliwyd yn Mhwllheli dydd Llun, Mawrth 12eg. Yr oedd yn bresenol Mr. J. E. Greaves (cadeirydd), Dr. O. Wynne Griffith, Mri. G. Hughes Roberts, Llew Davies (clerc), W. E. Williams (cynrychiolydd amaethyddol) Lieut. Cradoc Davies (cynrychiolydd milwrol).

ACHOSION PWLLHELI.

Apeliai Walter Parker, 58, North Street, gyriedydd cerbyd modur, priod, 26 mlwydd oed, am esgusodiad.

Dywedai yr apelydd, yr hwn a roddwyd yn Nosbarth B1 yn Ngwrecsam, ei fod wedi myned ar ei ddeurod o Bwllheli i Bangor i gynyg ei wasanaeth gynted y torodd y rhyfel allan, gan golli cyflog diwrnod, ond gwrthodwyd ef. Yn ddiweddarach cynygiodd ei hun yn Mhwllheli, ond gwrthodwyd ef drachefn am resymau iechydol. Yna aeth i gael ei archwilio i Wrexham, a rhoddwyd ef yn Nosbarth B1 ond prin y credai ef eu bod wedi ei roddi yn y dosbarth priodol, ac ofnai y byddai yn bwysau parhaus ar y wlad, gan fod ei afiechyd yn gwaethygu.

Yr oedd ganddo ddau frawd a dau frawd-yn-nghyfraith yn y fyddin. Gwrthodwyd esgusodiad.

Yr Udgorn 21/03/1917


MILWROL.

Llongyfarchwn yn galonog Private Walter Parker, North Street, ar ei ddyrchafiad yn Lance-Corporal ar faes y rhyfel yn Ffrainc.

Eled yn uwch eto.

Yr Udgorn 25/09/1918


ENILL Y FEDAL FILWROL.

Llongyfarchwn Private Walter Parker, North Street, ar ei waith yn enill y Fedal Filwrol am wrhydri arbenig o'i eiddo yn Ffrainc. Deallwn erbyn hyn fod yr anturiaeth a enillodd y fath anrhydedd wedi costio yn ddrud iddo, gan ei fod yn awr yn glwyfedig mewn ysbyty yno. Dymunwn i'r gwron adferiad buan.

Yr Udgorn 20/11/1918