MARW MISS MAGGIE WILLIAMS.
Dydd LIun, Awst 7fed, bu farw Miss Maggie Williams, Bryngoleu, Salem Terrace, ar ôl gwaeledd maith, tra nad oedd ond 30 mlwydd oed. Cydymdeimlir a'i mam weddw ac a'i brodyr a'i chwiorydd, yn eu profedigaeth lem a chwerw.Cymerodd yr angladd (preifat) le dydd Gwener yn mynwent Abererch. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, B A., Ficer, a David Jones, Ficer Abererch.
Yr oedd yn bresenol Private W. Lloyd Williams, 88 Batt. Canadian Force; Sergt. T. J. Williams, 89 Batt. Canadian Force; Mr. Arthur J. Williams (cyfreithiwr) Sheffield, a Mrs Williams, ei briod; Parch. Puleston Jones, M.A., a Miss Lizzie Davies, Pwllheli. Anfonwyd blodeu gan Mrs Williams (y fam), Miss Annie J. Williams, a Mrs Ella Williams (chwiorydd), Sergt. a Mrs. Williams, ei briod, Mr. a Mrs. Arthur J. Williams, Mr. a Mrs. D Griffith, Hirwaen house, Miss Lizzie Davies, Misses Williams, Goleufryn.