YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaiiwyd yr uchod dydd Mercher, Mri J. G. Jones (Cadeirydd), Dr. S. W. Griffiths; Dr Gwynogfryn Evans, W. W. Griffiths. J Hughes Parry a G. Cornelius Roberts ar y faingc.

CYFLOGI BACHGEN.

Cyhuddai Mr J. W. Thomas (Swyddog Presenoldeb), Mr Samuel LJoyd. Bee Hive, Pwllheli, o gyflogi bachgen o dan 14 mlwydd oed yn ei wasanaeth.

Tystiai Mr Lloyd fod mam y bachgen wedi dweyd wrtho fod yr ysgoIfeistr wedi rhoddi caniatad i'r bachgen absenoli ei hunan o'r ysgol a'r ddydd Mercher. Nis gwyddai ef fod angen tystygrif esgusodiad mewn trefn i gyflogi bachgen o'r fath a phan ddeallodd hvny bu iddo anfon y bachgen ymaith. Yr oedd y bachgen yn gadael y lle pan ddaeth y swyddog. Dywedai ei fod yn ddieuog.

Dirwywyd ef i 5s 6c. Erlynai Mr E. R. Davies ar ran y Pwyllgor Addysg Sirol.

Yr Herald Gymraeg 28/03/1916