MEWN YSBYTTY.
Ddydd Sul derbyniodd Mr Samuel Williams, Tanygarn, hysbysrwydd fod ei fab ieuengaf, Private Arthur Williams, yn ddifrifol wael yn yr ysbytty yn Limerick. Aeth ei dad yno yn ddiymdroi i'w wel, a deallwn fod y newyddion am dano erbyn hyn ychydig yn well. Bydded iddo gael gwellhad buan o'u hadfyd.Yr Udgorn 25/09/1918
GWELL NA'R OFNAU.
Da gennym ddeall fod Private Arthur Williams, mab Mr. a Mrs. Williams, Tanygarn yn well na'r ofnau.Cymerwyd ef yn ddifrifol wael tra gyda'r fyddin yn Limerick ac mewn canlyniad derbyniodd Mr. Williams bellebr nos SuI yn ei wahodd i olwg y mab.
Mae newyddion diweddarach yn dweyd ei fod yn gwella yn foddhaol.