GWAREDIGAETH HYNOD.

Yr wythnos ddiweddaf dychwelodd Mr Willie Humphreys, mab ieuengaf Mr a Mrs John Humphreys, Salem Crescent, gartref ar ôl cael gwaredigaeth hynod gyfyng i'w fywyd ar y môr.

Yr oedd yn un o ddwylaw y llong adnabyddus "Edeyrnian," yr hon a soddwyd gan fad tanforol y gelyn. Ni fu ond tri munud ar wyneb y dŵr wedi ei thorpedio. Collodd 14 o'r dwylaw eu bywyd, a diangodd y gweddill yn ddiogel ar ôl hir ymdrech a'r elfenau gwrthwynebus ac a gelynion creulawn.

Yr oedd eu hymddygiad y waith hon at y trueiniaid digymorth hyn yn anynol i'r eithaf, ac y mae einioes y rhai a arbedwyd yn destyn rhyfeddod.

Yr Udgorn 29/08/1917