MARW MASNACHWR CYFRIFOL.
Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y masnachwr adnabyddus Mr David Williams, Pwlldefaid, yr hyn a gymerodd le foreu Mercher, ac efe yn 56 mlwydd oed.Mab ydoedd i'r diweddar Mr a Mrs Robert Williams, Pwlldefaid Farm, Aberdaron. Brawychwyd y dref pan ddeallwyd fod y masnachydd cyfrifol a'r cyfaill rhadlon wedi ei orddiwes gan afiechyd blin, a chrewyd disgwyliadau uchel am ei adferiad, ond siomwyd y gobeithion goreu pan daenwyd y newydd ei fod wedi huno er pob ymgais feddygol i adfer ei fywyd.
Yr oedd Mr Williams yn meddu ar nodweddion gwir brydferth yn ei fywyd. Gwelid ynddo y cymwynaswr pur, a'i galon yn llawn tosturi at wir angen dynoliaeth. Cyfranodd yn helaethach na llawer, a bydd colled ddiadfer i luaws ar ôl y galon hael sy'n tawel orffwys heddyw yn mhriddellau erw Duw. Yr oedd ei anedd ddiddos yn Arwel yn llety fforddolion ac yn fan gwleddoedd i bererinion Seion. Meddai bersonoliaeth ddeniadol, ac yr oedd yn ŵr ymadroddus a difyr ei gwmniaeth. Hawliai ei le yn ddiymgais hollol yn mhob cylch o werth oherwydd lledneisrwydd ei fuchedd a'i barodrwydd gwasanaethgar i wneud rhywbeth er budd y lluaws. Ni cheid ynddo fel masnachydd ond rhiniau goreu y gwir foneddwr, a deliai a'i gwsmeriaid fel gŵr gonest a thrylwyr ei galon.
Daeth i wasanaethu yn ieuanc iawn i faelfa ei ewythr - Mr Owen Williams - ac wedi ei farw trosglwyddwyd y busnes iddo ef, fel y daeth yn un o fasnachwyr mwyaf ei gyfrifoldeb yn y dref. Bu hefyd yn aelod gwerthfawr yn eglwys Penmount, a chymerai ddyddordeb arbenig yn ei holl symudiadau. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chylch ei wybodaeth ymarferol a chrefyddol yn dra eang. Gŵr hynaws a boneddwr i'r gwraidd oedd, a bydd colled ar ôl y fath un lawned o swyn a hawddgarwch.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu yn eu trallod blin. Cymerodd y gladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd Sadwrn yn mynwent Aberdaron. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones, M. A., ac yn yr eglwys a'r fynwent gan y Parch. T. E. Owen, M. A., Rheithor.
Y prif alarwyr oeddynt :- Mri W. O. Williams a Robert Williams (brodyr); Mrs Jones, Manchester (chwaer); Mrs T. Williams a Mrs R. Williams (chwiorydd ynghyfraith); Mri James Williams, Llwyn; J. D. Williams, Manchester; W. T. Williams, Nottingham; David Jones, Cefn Coed; Richard Jones, Bellfield; a John Jones, Tynymynydd, Aberdaron (cefndyr); Mri Thomas Williams, Pwlldefaid, ac Owen Roberts, Cwrt, Aberdaron (ewyrthod); Mr John Jones, Manchester (brawd ynghyfraith) ac hefyd Mri R. O. Griffith, Chemist; M G. Jones, Artro, ac Owen Owen, Aelybryn.
Anfonwyd blodau-dorchau heirdd gan y rhai canlynol :- Gaynor, Maggie, Tom a Willie (brodyr a chwiorydd) Mr a Mrs Jones (brawd a chwaer) Robert a Mary (brawd a chwaer) Mr a Mrs James Williams, Llwyn (cefndyr) Mrs J. D. Williams, E. Cecil Williams, H. Percival Williiams, George F. Williams, Leonard Williams (cefndyr) Mr W. T. Williams. Nottingham; Annie, Southport (cefnder) Mr a Mrs R. O. Griffith, Chemist; Mrs 1 Evans-Hughes, Derwen, Nefyn; Misses S Griffith, Roberts, a Miss Roberts, Arwel (morwynion) y Gwasanaethyddion Dosbarth Ysgol Sul; Teulu Hirwaen, Pwllheli.
Yr oedd trefniadau'r angladd o dan ofal Mr William Evans, Pwlldefaid.