PRIODAS SWYDDOG LLYNGESOL.
Dydd Mawrth, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Enfield, Liverpool, cymerodd priodas le rhwng Lieutanant R. Bonar Roberts, R. N. R., ail fab Mrs. Roberts, a'r diweddar Capten Roberts, Isfryn, Pwllheli, a Helen, unig ferch Mr. a Mrs. John Davies, Caertyddyn, Pencaenewyd. Gweinyddwyd gan y Parch. John Owen, y Gweinidog, a'r Parch. D Tudwal Davies (cefnder y briodferch).Gweithredwyd fel tystion gan Miss Bessie Roberts (chwaer y priodfab), a Mr. Gwynedd Davies, (brawd y briodferch).
Mwynhawd y wledd briodasol yn y "London & North Western Hotel," Liverpool.
Dymunwn hir oes a phob llwyddiant iddynt.