CLADDEDIGAETH.

Dydd Gwener ym Mynwent Denio, bu claddedigaeth Mrs Jones, priod Mr J. G. Jones, Llwyn Hudol, gynt o Salem Crescent, Pwllheli.

Bu farw y dydd Sul blaenorol ar ôl maith waeledd, yn ei 63 mlwydd oed.

Gwasanaethwyd gan y Parch John Hughes, B.D., Bangor, ac yr oedd y rhai canlynol yn bresenol: Mri J. G. Jones (priod), J. Evans Hughes, Robert Hughes, Penychain; W. Hughes. Plas Llwyndu; H. O. Hughes, Tyddyn Drain; W. Jones, Plasy- bryn, Talsarnau; Robert Jones, Penybryn; Thomas Hughes, Castellmarch; W. Hughes, Penychain; James Griffiths, John Griffiths, Factory. Pwllheli; William Griffith, Afonwy, Pwllheli; T. Evans Hughes, Pwllheli; W. O. Jones. Argraig; Owen Jones, Aberdaron; a Dr. O. Wynne Griffiths (meddyg y teulu). Gofalwyd am y trefniadau gan Mr J. T. Davies, Birmingham.

Anfonwyd nifer luosog o flodeudyrch gan berthynasau a chyfeillion.

Yr Herald Gymraeg 03/08/1915