DAMWAIN.
Brawychdod nid bychan i'r rhai oedd lygad-dystion o effeithiau y ddamwain gyda'i fodur-beisicl a gyfarfyddodd Mr Owen Owen, Goruchwyliwr y London City and Midland Bank, Pwllheli, yng nhgwr y pentref hwn, foreu Mawrth diweddaf.Nid yw yn hysbys pa fodd y cymerodd y ddamwain le. Mr Ellis Jones, gwerthwr llestri Pwllheli, a'i ganfu gyntaf, ar y ffordd, yn ei waed, ac anfonodd ei fab i gyrchu y meddyg Evans, sef Maer Pwllheli, a bu Mrs Owen, yr Odyn, yn gweini yn garedig arno hyd nes y daeth y meddyg.
DAMWAIN YN ABERERCH ANFFAWD I FANCWR.
Pan oedd Mr Owen Owens, rheolwr cangen Pwllheli o Fanc y London City and Midland, yn myned ar ei feisicl-motor i Griccieth ddydd Mawrth, collodd reolaeth ar ei feisicl yn Abererch, a chanfuwyd ef gan Mr Ellis Jones a'i fab, North Street, Pwllheli a ddigwyddai basio ar y pryd, yn gorwedd yn ddi-ymwybod ar y ffordd.Anfonwyd am feddyg ar unwaith a daeth Dr. R. Joned-Evans yno mewn car motor. Cludwyd Mr Owens adref yn y car motor.
Yr oedd mewn cvflwr peryglus gyda'r nos a dioddefai oddiwrth ysgydwad yr ymenydd.
DAMWAIN DDIFRIFOL.
Cyfarfu Mr. Owen Owen, goruchwyliwr Ariandy y London City a Midland, รข damwain dost iawn tra ym myned ar ei ddeuredur motor yr wythnos ddiweddaf yn ymyl Abererch.Tybir iddo golli llywodraeth ar y peiriant ac yna iddo gwympo.
Darganfuwyd ef mewn llyn o waed yn ochr y ffordd gan Dr. R. Jones Evans, yr hwn ddigwyddai fod yn gyru yn ei gerbyd y ffordd hono.
Cludwyd Mr. Owen adref yn ddioed. Erbyn ddydd Mercher yr oedd wedi adenill ei ymwybyddiaeth ac yr oedd arwyddion da iawn y cai adferiad.