YMGOM RHWNG DAU FILWR AR FAES Y GWAED.
Dyro i Mi y Mynydd Yma. Testyn y Parch. John Williams, Brynsiencyn.
Mae Mr. David Glynne Owen, mab Mr. a Mrs Owen Owens, Aelybryn, Pwllhei, yn gwella yn raddol mewn ysbytty ger y Dardanelles. Ymunodd ef a'r R.A.M.C., a bu yn gweinyddu ar y cleifion er mis Ebrill.Mewn llythyr a anfonodd adref yn ddiweddar edrydd hanesyn dyddorol iawn am ysgwrs a glywodd rhwng dau filwr Cymreig. Y mae yr adran y cysylltwyd ef a hi yn ymladd yn egniol ers misoedd i geisio cymeryd rhyw fynydd pwysig ac yn cael eu gorfodi i'w ildio yn aml pan bron a chyrhaedd ei gopa.
Pan yr oeddynt yn gorphwyso un dydd ar y gwastatir, a miloedd o filwyr yn ymgomio a'u gilydd daeth gair o Gymraeg i'w glustiau ar edyn yr awel. Teimlai ei hun yn cynhesu trwyddo wrth glywed gair o'r hen iaith yn y fan hono. Yr oedd hyny cyn i'r milwyr Cymreig (R.W.F.) lanio yno.
Penderfynodd weithio ei ffordd i gyfeiriad y llais, ac yn fuan gwelai ddau filwr mewn ymgom wresog, ac un ohonynt yn pwysleisio a'i ddwylaw pan yn siarad. Nid oedd ganddo awydd am wrando eu cyfrinach o gwbl, ond nis gallai beidio ac ymwasgu atynt.
A chlywodd un o honynt yn dweyd wrth y llall, "Wyddost ti beth sydd ar fy meddwl heddyw, fachgen?" "Na wn i," meddai y llall.
"Wel," meddai, "testyn y Parch John Williams, Brynsiencyn."
"O, felly," meddai ei gyfaill, "sut yr oedd hwnw?"
"O, fel hyn," meddai yntau, gan edrych yn hiraethus ar y mynydd cribog, "O Arglwydd, dyro imi y mynydd yma."