ANGLADDOL.

Dydd Sadwrn cymerodd angladd Mrs. Catherine Jones, Ty Capel, Penmount, le yn Mynwent Denio (anghyhoedd). Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. J. Puleston Jones. M.A., a Thomas Williams ac ar lan y bedd gan y Parch J. Edwards, B.A. (Ficer). Yr oedd yn angladd parchus iawn.

Yr oedd yn bresenol holl ddiaconiaid Eglwys Penmount, ac hefyd Mr. John Jones (priod), Mr. David Meirion Jones (ei frawd) a'r perthynasau Mri. R. Mason Jones, Henry Jones, W. H. Smith, Richand Jones, o Bwllheli; Robert Evans. Llwyndyrus; J. Sebourne Davies. Angorfa; Owen Jones, Cefn Pentre; Henry Jones, Hendy; Pistyll; Capten Griffiths, Pencaenewydd; Robert Williams, Tylon; Richard Jones, Pant Moelia; Griffith Jones, Isfryn, Abermaw; Evan Williams, Bron Eifion; Sergt. Rowland Rowlands, Abermaw; W. Talmage Davies, a Cradoc Davies, Pwllheli; Owen Davies, Castell Mawr, ac O. George, Llanrwst.

Gofelid am y trefniadau gan Mr. Hugh Griffiths, Pwllheli.

 

Herald Gymraeg 01/12/1914


MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Fore Mercher diweddaf, yn drasydyn ac annisgwyliadwy, bu farw Mrs Catherine Jones, priod Mr John Jones, Ty Capel, Penmount, yn 78 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn wraig ddoeth a threfnus, ac o gymeriad rhinweddol uchel. Bu am oes faith yn cyflawni ei dyledswyddau yn nhy'r capel gyda chymeradwyaeth, a gall amryw heddyw dystio i'w doethineb a'i dyfalwch ynglyn a'r trefniadau.

Claddwyd hi ddydd Sadwrn (angladd anghyhoedd), pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. J. Puleston Jones, M.A., a Thomas Williams, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., ficer.

Gedy ar ei hôl briod a merch yn eu trallod blin, a llu o berthynasau eraill, â'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Udgorn Herald Gymraeg 02/12/1914