DIWEDD ADFYDUS I FRODOR O'R DREF.
Taenwyd y newydd trist yr wythnos ddiweddaf fod y cymeriad adnabyddus Mr Richard Williams (Penymaes), gynt Penmount Place, wedi cyfarfod a'i dynged trwy foddi yn un o ddociau Lerpwl.Hyd nos Sul, er pob ymgais ymchwiliadol deg, ni chaed hyd i'w gorff, ac y mae hyn yn gwneud min y brofedigaeth yn chwerwach i'r teulu ei dal. Chwith meddwl am y diwedd anffodus ddaeth i ran cymeriad mor wreiddiol a diddan ag ef mewn cwmni, ac yr oedd ganddo gylch eang o gyfeillion hoff ac anwyl ohono. Byddai ei air parod a'i wên wastadol ar ei rudd yn gwneud ei gwmniaeth yn ddifyr i'r lluaws.
Y mae ei unig fab, Sergeant R. W. Williams, yn swyddog o ddylanwad yn y Fyddin Gymreig, ac erys ar hyn o bryd fel llywydd y bombing party yn Nghroesoswallt.
Mae cydymdeimlad cyffredinol y dref â hwy fel teulu yn eu poen a'u galar mawr.