DAMWAIN.

Ddoe (ddydd LIun) cyfarfu Mr. Wm. Henry Smith, Abererch Road, a damwain yn Ngharreg yr Imbill.

Pan oedd yn parotoi ergyd mewn carreg i'w saethu taniodd y twll arno, ac anafodd a llosgodd ei wyneb yn ddifrifol.
 

Yr Udgorn 29/10/1913


Llys Sirol Pwllheli.

Cynhaliwyd Llys Sirol Pwllheli dydd Mawrth gerbron y Barnwr W. Evans. Ymddangosai Mr. Chapman ar ran y Pwllheli Granite Co. i hysbysu fod y cwmni wedi setlo achos iawndal Mr. William Henry Smith, Pwllheli, am iawn am golli ei lygad trwy ddamwain tra yng ngwasanaeth Cwmni Chwarel yr Imbyll.

Cytunai Mr. Hugh Pritchard ar ran y gweithiwr i dderbyn 75p a'r costau. Archwyd i dalu yr arian.
 

Herald Gymraeg 08/09/1914