MARWOLAETH.

Drwg genym hysbysu am farwolaeth un o drigolion hynaf y dref, sef Mrs Jane Williams. Penmount Place (gynt Glandwr, Abererch Road), yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn, a hi yn 82 mlwydd oed.

Yr oedd yn gymeriad siriol a didwyll, a hoffid hi yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.

Cydymdeimlir yn fawr a'i merch, Miss Gwen Williams, a'i mab Pte William Williams, A.S.C., yn eu galar am dani.

Cymerodd yr angladd (anghyhoedd) le dydd Mercher yn mynwent Abererch.

Yr Herald Gymraeg 14/08/1917