ENILL Y FEDAL FILWROL.
Llongyfarchwn yn galonog Lance- Corporal Thomas Roger Roberts, mab Mr a Mrs William Roberts, 8, St. Tudwall's Terrace, ar ei waith yn enill y Fedal Fllwrol (Military Medal) am wrhydri o'i eiddo ar faes y drin yn Ffrainc.Dengys hyn nad yw yr hen dref yn fyr o fagu glewion sy'n rhoi bri ar ei hanes heddyw, ac nid rhyfedd hyny gan fod Rogers, fel eraill o'i gymrodyr, yn ddewr ac anturiaethus wrth natur.
Caffed anrhydedd fwy eto.