PRIODAS.
Ddydd Iau, yn Eglwys St. Peris, Nant Peris, gan y Parchn. L. Jenkins, B.A., rheithor, ac H. Lunt, curad, priodwyd Mr. Ellis Owen Jones, 7, St. Tudwall's Terrace, a Miss Laura J. Jones, Rock House, Llanberis.Gwasanaethwyd ar y briodferch gan Mrs. Myfanwy Closs, ei chwaer, a Miss Lizzie Jones, chwaer y priodfab, ac ar y priodfab gan ei frawd, Mr. Edward Jones, a Mr. Richard R. Jones, brawd y briodferch.
Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr.