MARWOLAETH.

Dydd Gwener diweddaf, wedi dioddef cystudd maith a phoenus, bu farw y brawd tawel a rhadlon Mr. Robert Hughes, Plastrwr, priod Mrs Ellen Hughes, St. Tudwal's View Terrace, ac efe yn 65 mlwydd oed.

Fel yr awgrymwyd cafodd gystudd caled iawn, ond cafodd ras i ymostwng yn ddirwgnach o dan yr arteithiau llymaf. Ei hoff emyn ydoedd "At un a wreudy weddi'r gwan," a.y., ac y mae yn ddiamheuol genym fod ei weddi syml wedi ei hateb, ac fod marw wedi troi yn elw iddo.

Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu trallodedig yn eu dagrau, ac yn neillduol a'r mab sydd yn nghanol y ddrycin ar un o faesydd Ffrainc. Nawdd y nef fyddo trostynt oll.

Cleddir dydd Iau am un o'r gloch. Angladd cyhoeddus (meibion yn unig).

Yr Udgorn 24/04/1918