Llythyrau oddiwrth ein Milwyr.

Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Mr Richard Roberts, New Row, Penrhydlyniog, o Ffrainc, oddiwrth ei nai, Private Richard Roberts, mab hynaf Mr a Mrs Thomas John Roberts, Abererch Road. Mai 6ed, 1918.

Anwyl Uncle Richard,
Daeth eich caredig lythvr i law ddeuddydd yn ôl, a da odiaeth oedd genyf ei gael, a deall eich bod yn mwynhau cynefin iechyd. Cymeraf y cyfleustra cyntaf hwn o'i ateb. Amhosibl oedd gwneud yn nghynt, gan ein bod wedi symud ychydig filltiroedd o'r man yr oeddem ynddo o'r blaen.

Da genyf allu eich hysbysu fy mod yn mwynhau iechyd rhagorol er pan allan yma, er mor arw y modd i fyw, o dan yr amgylchiadau dyrus yma Eto 'rwyf yn hollol gysurus a chalonog, ac yn cael "nerth yn ôl y dydd a chymorth fel bo'r achos." Anwiredd fyddai i mi ddweyd na fum mewn ami berygIon er pan yma, ond "y Duw a'u daliodd hwy a'm dygodd inau trwy bob cyfyngder".

Mae byw yn swn y rhyferthwy, ac megis yn nghysgod marwolaeth yn dwyn dyn wyneb yu wyneb a ffeithiau mawr hanfodol amser a thragwyddoldeb. Pe gofynid i mi beth yw mhrofiad yn ystod y byr amser 'rwyf yma, gallwn ddweyd yn ddifloesgni mai y peth ganfum benaf yw - fod Duw yn ateb gweddi.

Mwy nag unwaith 'rwyf wedi gweld a phrofi hyny yn dra amIwg, ac mae genyf achos mawr i ddiolch ei bod arnaf fel ag y mae. Tebyg fod yna lawer o ofid a phryder yn mhob cartref yn y deyrnas oherwydd yr alanas ofnadwy. Calondid mawr yw clywed fod yna gymaint o weddio yn y wlad am derfyn buan ar yr aflwydd - nid oes "erfyn" cryfach wrth law i'w therfynu.

Da iawn genyf ddeall i chwi gael cyfarfodydd mor luosog a bendithiol ar y dydd neillduwyd i'r pwrpas aruchel, a mawr hyderaf y bydd atebiad buan i'r gweddiau taer offrymwyd. Yr oedd rhyw ias ryfedd yn rhedeg drwof pan yn darllen yn eich llythyr ac yn yr UDGORN am y penderfyniad i anfon ochenaid i fyny am haner awr wedi deuddeg bob dydd — bendith fawr fo ar erfyniadau'r saint.

Fy nghofion cynhesaf atoch a phawb yn Seion fydd yn holi am danaf, gan ddymuno rhan yn eich gweddiau. Gair yn fuan fo'n dra derbyniol. Mae llythyr o'r hen wlad fel balm o Gilead allan yma.

Eich anwyl Nai,
RICHARD.

Yr Udgorn 15/05/1918