Llythyrau oddiwrth ein Milwyr.

Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Mrs. Thomas J. Roberts, Abererch Road, oddiwrth ei mab, Llyngesydd William Roberts, o'r America. Gwel y darllenydd wrth gynwys ei lythyr paham yr anfonodd ef i'w fam.

New York, Dydd Sul, Mai 12fed.

Fy Anwyl Fam.
 
Dyma lythyr i chwi, ac i chwi yn unig.

Mae heddyw yn cael ei neillduo ar gais Cadfridog Pershing, y Fyddin Americanaidd, yn "Ddiwrnod Mam," ac mae'r milwr enwog hwnw yn erfyn ar i bob gŵr sydd yn ngwisg ei wlad ysgrifeuu i'w fam os byw hi. Meddyliais inau na fuaswn yn ôl i hyn o beth. Pan ddarllenais yn y papur am "Mother's Day" yr oeddwn yn methu dirnad yn iawn beth oedd ei amcan, ac i'r penderfyniad yma y dois, ac feallai nad yw yn wahanol iawn i'r hyn y bwriadwyd i'r diwrnod fod.

Mae'r General Pershing, wedi profiad o dros ddeuddeng mis ar feusydd gwaedlyd Ffrainc, wedi sylweddoli mai nid rhyfel rhwng yr Almaen a Phrydain Fawr yw hi, nac ychwaith achub ac amddiffyn gwledydd bychan, nac hefyd i sicrhau safle a llwyddiant gwlad y gorllewin yn y dyfodol, ond yn hytrach ymgyrch cydrhwng y pethau sydd o'r byd hwn a'r pethau nad ynt o'r byd hwn rhyfel rhwng y chwant dieflig yna i ormesu ac ysbryd heddychol a da. Weithiau mae fel yn ymddangos fod pobl Prydain Fawr yn sylweddoli yn iawn mai nid rhyfel arfau yn unig yw hi. Gwn yn iawn fod rhyfel yn enaid bron pob mam drwy'r wlad heddyw. Pryder a gofalon, ac yn gofyn y cwestiwn iddynt eu hunain, "Pam mae fy machgyn i yn ymladd brwydrau penaethiaid," ac mae yn anodd cael atebiad.

Ond nid brwydr brenhinoedd ac ymherawdwyr yw hi, ond brwydr pob un yn unigol i ddewis pa un ai o dan yspryd trais y bwriada fyw ai ynte o dan "Ysbryd y Groes." Yr yspryd olaf yna sydd ym mhob mam iawn trwy'r deyrnas heddyw, sef Yspryd Crist, ac mae yn symbyliad i ninau sydd yn gorfod gwynebu ychydig beryglon wneud hyny yn ddiofn a dibetrus, am ei fod yn gymeradwy gan yspryd mam, a hwnw yn Yspryd Crist.

Os digwydd rhywbeth i Richard neu i mi cofiwch, er mai yn aberth i ormes y byd hwn y bu, fod Duw yn cymeradwyo'r oll. Cerwch eich gelynion," medda'r Gair, ond all neb garu'r German, achos gelynion lesu Grist ydynt hwy, ac mae'n amhosibl caru gelynion y Dwyfol ei hunan.

Duw a'ch bendithio (a phob mam hefyd) a gras i ddal a deall yn y pryder a'r poen, ac a'm cadwo inau i ddychwelyd i fod yn help bychan i'ch byd bach chwi.

Cofion cariadus, serchocaf, eich anwyl fab,
WILLIAM.

Yr Udgorn 10/07/1918