MARW GWR ADNABYDDUS.

Heddyw (dydd Mawrth), ar ôl cystudd blin, bu farw y gŵr hysbys Mr William Jones, Saddler, Heol Fawr, ac efe yn 74 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Crymllwyn, Rhostawr, ond treuliodd y rhan heiaethaf o'i oes yn Mhwllheli.

Gwasanaethodd yn ei ddydd ar fyrddau cyhoeddus ac ar Gyngor y Dref am flwyddi lawer. Cymerai ddyddordeb arbenig mewn arddangosfeydd cwn, a beirniadai yn lled fynych ynddynt. Yr oedd yn aelod selog a blaenllaw yn Salem. Cymer y gladdedigaeth (anghyhoedd) le yn mynwent newydd Denio ddydd Gwener.

Cydymdeimlir a'i deulu yn eu tristwch.

Yr Udgorn 27/02/1918