WEDI EU CLWYFO.

Derbyniodd Capt. a Mrs Jones, Quellyn, Cardiff Road, hysbysiad fod eu hunig fab, Private J. Rees Jones, R. W. F., wedi ei glwyfo yn dost ar faes y gwaed.

Gobeithiwn y ceir gwell newyddion yn ei gylch cyn bo hir, ac nad yw ei archellion tybiedig mor ddifrifol ag y credir eu bod. Cydymdeimlwn yn fawr a'i deulu yn eu pryder.

Yr Udgorn 10/10/1917