BONEDDIGES ADNABYDDUS.
Nos Fawrth ddiweddaf, ym mhreswylfod ei merch yn Arosfa, bu farw Mrs. Ann Jones, gynt o'r Castell, priod y diweddar Mr. John D. Jones, oriadurwr, Pwllheli, yn ei 80 mlwydd oed.Yr oedd yn adnabyddus iawn yn y dref ac yn aelod dichlynaidd o Eglwys Penmount. Gedy ar ei hoi bump o blant, set Miss M. L. Jones, Miss Ann Jones, Mrs. Wynne Owen, a. Mri. D. Lloyd Jones, a W. Picton Jones, oriadurwyr, High Street.
Claddwyd dydd Sadwrn dan y drefn newydd yn mynwent Denio. Yr oedd yn bresenol, heblaw y teulu, swyddogion eglwys Penmount.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Puleston Jones, gweinidog a Thomas Williams. Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn eu profedigaeth.
Herald Gymraeg 06/10/1914
MARWOLAETH.
Dydd Mawrth bu farw un o hen-frodorion y dref, sef Mrs Anne Jones (gynt o Picton Castle) gweddw Mr J. D. Jones, Watchmaker, Pwllheli.Cafodd oes faith yr hon a dreuliodd yn dawel, di-rodres, pur a dilychwin. Ar ei diwedd cafodd gystudd maith, yr hwn a ddioddefodd fel Cristion ac yn addas o'r efengyl a broffesodd ar hyd ei hoes.
Anghyhoedd oedd yr angladd, yr hwn a gymerodd le ddydd Sadwrn pryd y gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch Thomas Williams, a'r Parch J. Puleston Jones, M A., ac wrth y bedd gan y Parch John Hughes, B.A., B.D., a'r Parch W. Thomas, Llanrwst.
Yr oedd y blodau-dorchau wedi eu hanfon gan Megan ac Ann (merched), William (mab). Catherine a Willie (merch a mab ynghyfraith), Maggie a Mary (nithod), Lerpwl; Mr a Mrs Hughes, Bangor; Miss Roberts a Mr R. O. Roberts, Abersoch, a Mr a Mrs Anthony, Pwllheli.