Cyfarfod Ymadawol y Parch John Hughes, B.A., BD. Pwllheli.
Nos Iau diweddaf daeth Eglwys Salem (M.C), Pwllheli, ynghyd i ffarwelio a'i bugail, y Parch John Hughes, B.A B. D., ac i ddymuno pob llwyddiant iddo ef a'i deulu ar ei ymadawiad i gymeryd gofal Eglwys Seisnig Prince's Road, Bangor.Dechreuwyd y cyfarfod gan un o'r brodyr Wesleyaidd, sef Mr Richard Roberts, New Row, a llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Robert Murray, un o swyddogion Salem Sylwodd y llywydd mai amcan y cyfarfod ydoedd dymuno yn dda i'w gweinidog a'i deulu ar eu hymadawiad i Fangor. Galwodd y llywydd yn gyntaf ar Mr Griffith Roberts, un o flaenoriaid hynaf Salem. Dywedodd Mr Roberts ei fod erbyn hyn yn aelod yn Salem ers dros un mlynedd a deugain, ac wedi gweled llawer o gyfnewidiadau yn ystod yr amser yna, ond ni welodd yr Eglwys yn Salem, hyd yn awr ar ymadawiad Mr Hughes, heb weinidog yn eu plith. Clywodd Mr Hughes yn pregethu dros ddau gant o weithiau, ond ci chlywodd erioed hen glem ganddo. Yr oedd yn dymuno Duw yn rhwydd iddo yn ei le newydd.
Galwyd yn nesaf ar Mr W. Eifl Jones, blaenor arall o'r Eglwys, i gyflwyno anrheg i Mr Hughes ar ran yr Eglwys, sef nifer o lyfrau a phwrs o aur, ynghyd a darlun o hono ef a swyddogion yr Eglwys gyda'u gilydd. Sylwodd Mr Jones fod yr anrhegion wedi dod o galon yr Eglwys, pawb yn dod a'i geiniog yn wirfoddol.
Cyflwynodd y Parch Thos. Williams, The Elms, dros ddosbarth o weinidogion y dref, anrheg fechan arall i Mr Hughes. Byddai yn chwith iddo yntau golli Mr Hughes. Po fwyaf o'i gymdeithas a gai mwy anwyl oedd ganddo.
Galwyd yn nesaf ar y Parch John Rhydderch a'r Parch J. Mostyn Jones, y rhai oedd yn bresenol ar ran Cyngor Eglwys Rhyddion y dref. Sylwodd Mr Rhydderch fod y cylch wedi ei dori droion ers pan ddaeth ef i'r dref - yr oedd y Parchn J. Evans, Henry Rees a D W. Roberts wedi ymadael, ac yn awr yr oeddynt yn colli un arall. Cafodd Mr Hughes yn ddyn gwrol ac yn un ddatganai ei farn yn groew a chlir pan fyddai galw. Yr oedd yn weithiwr diflino, yn arbenig gyda'r bobl ieuainc. Yr oedd yn ddyn didwyll, diwylliedig, defosiynol a dymunol iawn. Eiddunai fendith Duw arno.
Dywedodd y Parch J. Mostyn Jones iddo gael Mr Hughes, yn ystod ei haner blwyddyn o adnabyddiaeth ohono, yn un diymhongar, cywir a diragrith, ac yn benaf peth yn ddyn duwiol. Drwg oedd ganddo golli un ag oedd yn gymydog mewn gwirionedd. Dymunai yntau Dduw yn rhwydd iddo ef a'r teulu.
Dywedodd y Parch J. Puleston Jones, ar ran Eglwys Penmount, fod anwyldeb mawr rhyngddo ef a Mr Hughes. Yr oeddynt yn dod o'r un Cyfarfod Misol, ac yr oedd yn adnabod ei deulu yn dda. Da oedd ganddo ei weled yn mynd i Prince's Road. Yr oedd yn adnabod yr Eglwys, a gwyddai na chawsai neb gwell na Mr Hughes. Yr oedd yn meddu holl nodweddion bugail. Credai yn yr Eglwys ac yn mywyd yr Eglwys. Hyderai y byddai y planhigion blanodd Mr Hughes yma yn cael y gofal a'r meithriniad priodol fel y byddont yn parhau i dyfu.
Yn nesaf caed gair gan y Parch John Hughes. Ni bu erioed, meddai, mewn cyfarfod ag yr oedd mor anodd ganddo ddweyd gair ynddo. Byddai yr anrhegion a gafodd yn llefaru wrtho bob dydd a byddai eu gweled yn gwneud iddo feddwl yn barhaus am deimladau da yr Eglwys a'r brodyr eraill tuag ato. Nis gallai ond diolch yn gynes am danynt. Nid oedd ef, fel pawb arall, heb ei ffaeleddau, ond credai fod teimladau cynes rhyngddo ag Eglwys Salem am y pedair blynedd y bu yn eu plith. Ni byddai iddo byth anghofio ei gysylltiad a hi—byddai bob amser yn anwyl iawn ganddo.
Talodd deyrnged o barch hefyd i goffadwriaeth y Parchn John Ellis, J. R. Williams, ac O. N. Jones. a chyfeiriodd at y cynorthwy gafodd gynddynt ynglyn a gwaith yr Eglwys yn Salem, yn ogystal a brodyr eraill o'r tu allan i'r Eglwys. Sylwodd y llywydd fod yn ddrwg gan Mr J. G. Jones (un o flaenoriaid Salem) nas gallai fod yn bresenol.
Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr Evan Parry, Penmount.