MARWOLAETH.
Gyda phrudd-der y cofnodwn farwolaeth y ferch ieuanc ragorol oedd bron a chyrraedd ei 16 mlwydd oed, sef Katie Florrie Ellis, annwyl ferch Mr. T. J. Ellis gynt Arvonia Stores) o'r dref hon, sydd yn byw yn Crown Cottage, Rhuthyn. ers blynyddau bellach.Fore Llun diweddaf yr ehedodd ei hysbryd ymaith, a cymerodd y gladdedigaeth le ym Mhwllheli. Wedi cael gwasanaeth yn Rhuthyn, y Parch. Mr. Jones (y capel Seisnig ond sydd yn gofalu am yr achos ym Methania), ynghyd a chyn-weinidog Bethania, a'r Parch. Mr. Parry, Tabernacl, yn gwasanaethu, cychwynwyd yn orymdaith o'r tŷ, y gweinidogion a blaenoriaid Bethania yn blaenori o flaen y ddau fotor, ac wedi cyrraedd Pwllheli yr oedd y Parch. T. Williams, bugail Penmount, ynghyd a'r blaenoriaid a'r arolygwyr ac arweinyddion y canu, a'i chyd-gyfoedion oedd gyda hi yn yr Ysgol Sul a'r ysgol elfenol, dan arolygiaeth Mr. Richard Williams, Abererch-road (yr hwn sydd ers blynyddau yn arolygwr ar y plant ym Mhenmount, a, Mrs. Ward, yn cynrychioli Miss Hughes, prif athrawes yr ysgolion elfenol.
Wrth lan y bedd cafwyd sylwadau pwrpasol iawn am ei nodweddion a'i boneddigeiddrwydd gan weinidog ei chapel yn Rhuthyn, ac hefyd gan y Parch. Thos. Williams, gweinidog Penmount, a'r Parch. Pierce Owen, ciwrad, yn gwasanaethu un yr eglwvs ac ar lan y bedd.
Anfonwyd lluaws mawr o flodeudyrch gan ei chyfeillion o Rhuthyn a Phwllheli. Gorffwysed mewn hedd.