MARW MR. R. IVOR PARRY. CYFREITHIWR.

Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y cyfreithiwr hysbys Mr R. Ivor Parry, yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn diweddaf, ac efe yn 75 mlwydd oed.

Yr oedd yn un o gyfreithwyr hynaf yng Ngogledd Cymru. Gwasanaethodd y dref ar y Cyngor am 30 mlynedd, a bu yn Faer y dref am bum' mlynedd. Rhoes ei oreu, tra y caniataodd ei iechyd iddo, i fuddianau cyffredinol y dref. Bu hefyd yn flaenor yn Mhenmount am 15 mlynedd.

Meddai ar bersonoliaeth hardd, ac o ymddangosiad y gwir foneddwr. Yr oedd yn ŵr o ddiwylliant uchel, ac yn hyddysg mewn amrywiol ganghenau o wybodaeth. Cydnabyddid ef yn llenor gwych, ac enillodd lawryfon o bwys mewn eisteddfodau enwog ar feusydd llenyddiaeth. Cymerai ddyddordeb arbenig mewn barddoniaeth ac hynafiaeth, a chyfrifid ef yn awdurdod ar ystyron hen eiriau a phethau henafol. Mewn gair yr oedd yn efrydydd caled ar hyd ei oes, ac ymgodymai beunydd a meddyliau dwfn gwyr o athrylith ddiledryw. Mynai y grawnwin allan o bob ffrwyth a myfyrdod, ac yr oedd drwy hyny yn un o'r cymeriadau mwyaf hawddgar a dyrchafol i fod yn ei gwmni. Byddai ei eiriau bob amser yn gyhoeddus a chyfrinachol yn ddetholedig a glân, a rhyw gyfaredd neillduol yn ei oslef bêr. Yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf llwyddianus i drin llyfrau anhawdd ar dduwinyddiaeth a'u cyffelyb a welsom un amser, a llwyddodd yn y cyfeiriad hwn i raddau helaeth gyda'i ddosbarth yn Mhenmount.

Dysgawdwr a gwir fab athrylith ydoedd, a gwr o ysbryd defosiynol ac o galon hael. Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, ddydd Iau yn mynwent Denio.

Gedy ar ei ôl ddau fab, Mr Alfred Ivor Parry, bargyfreithiwr, Pontypridd, a Mr Ivor Wyn Parry, Birmingham, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Udgorn 02/01/1918


ANGLADD YR HENADUR R. IVOR PARRY.

Dydd Iau, cymerodd angladd, yr hon oedd anghyhoedd, yr Henadur R. Ivor Parry le yn mynwent newydd Denio.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A ac wrth y bedd gan y Parch. J. Pierce Owen, B.A., Ciwrad. Yr oedd yn bresenol yn yr angladd Mri Alfred Ivor Parry a Ivor Wynn Parry (meibion) Evan R. Davies (clerc trefol) James Cowell, W. Picton Jones, Capten Humphreys, Ala Road a Mr J. C. Jones, Pretoria. Anfonwyd blodeudyrch gan y meibion.

Pasiodd Eglwys Penmount bleidlais o gydymdeimlad a'r meibion yn eu galar.

Yr oedd trefniadau yr angladd o dan ofal Mr Evan Jones, Shop Caerhydderch.

Yr Udgorn 09/01/1918


Pwllheli's Ex-Mayor.

Alderman Robert Ivor Parry, whose death occurred on Saturday week, was seventy-five years of age and was a native of Llanrug. He came to Pwllheli about fifty years ago and started as clerk in the office of Mr. Owen Owens, solicitor, and afterwards practised on his own account.

He was one of the oldest members of the Town Council and on six occasions was mayor. Alderman. Parry was a gentleman of varied tastes and was particularly well informed in horticulture and botany. He was also an antiquarian and litterateur. For many years he occupied a prominent place in religious life and was one of the leading deacons at Penmount where he acted as Sunday School teacher.

He leaves two sons - Mr. A. Ivor Wynn Parry, barrister at Pontypridd, and Mr. Ivor Wynn Parry, Birmingham.

Interment was made at Denio Cemetery on Thursday. The Rev. J. Puleston Jones, M.A., and the Rev. J. P. Owen, M.A., curate, officiated.

The chief mourners were Messrs. Alfred Ivor Parry and Ivor Wynn Parry (sons), E. R. Davies (town clerk), James Cowell, W. Picton Jones, Capt. Humphreys, J. C. Jones, Pretoria; and Evan Jones, Caerhydderch.

Wreaths were sent by the two sons. Memorial service was held at Penmount on Friday night when addresses were delivered by the Rev. J. Puleston Jones, M.A., Messrs. Samuel Williams, Samuel Lloyd, and Thomas Williams.

Cambrian News 11/01/1918