MARWOLAETH.

Drwg genym hysbysu am farwolaeth Mrs Roberts, Vernon House West End, yr hyn a gymerodd le ddydd Sul diweddaf. Nid oedd yn dda ei hiechyd er's amser bellach, ond dioddefodd ei gwaeledd yn dawel a digwyn. Yr oedd Mrs Roberts yn wraig dda a doeth, yn fam deilwng o'r enw, ac yn gymydoges bur.

Cymer y gladdedigaeth le ddydd lau nesaf, yr hon fydd cyhoeddus i'r orsaf, ac yna anghyhoedd i fynwent Llanbeblig, Caarnarfon.

Cydymdeimlwn a'i phlant yn eu galar am tarn mor addfwyn.

Yr Udgorn 29/08/1917